Beth yw'ch maes ymchwil?

Mae fy nghefndir yn y gwyddorau cymdeithasol ac mae gennyf PhD mewn polisi cymdeithasol. Rwyf wedi gweithio mewn meysydd amrywiol yn ystod fy ngyrfa, o'r gwyddorau cymdeithasol i iechyd a meddygaeth drwy newyddiaduriaeth! Mae'r rhan fwyaf o fy ymchwil ôl-ddoethurol wedi canolbwyntio ar iechyd o safbwynt cyfiawnder cymdeithasol. Dros y degawd diwethaf, rwyf wedi gwneud llawer o ymchwil i feichiogrwydd a bwydo babanod. Yn fwy diweddar, rwyf wedi dechrau cyfuno fy ymchwil i'r cyfnod mamolaeth â gwaith i astudio profiadau oedolion awtistig.

Dr Aimee Grant

Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn?

A minnau'n anabl ac yn hanu o gefndir dosbarth gweithiol, dechreuodd ymchwil i iechyd y cyhoedd fynd â'm bryd i o reidrwydd yn hytrach nag o ganlyniad i ddiddordeb yn unig. Gorffennais i fy PhD, a ysgrifennwyd am brofiadau o dlodi a budd-daliadau anabledd, yn 2022. Yna doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i rôl a fyddai'n fy ngalluogi i barhau â'r ymchwil honno wrth fyw yn ne Cymru (er mwyn cadw mewn cysylltiad â fy meddygon ymgynghorol amrywiol). Felly, dechreuais i ymchwilio i iechyd y cyhoedd, gan ganolbwyntio'n gyntaf ar smygu i elusen iechyd y cyhoedd ac yn nes ymlaen ar fwydo ar y fron i'r GIG. O ganlyniad i'r ymchwil gynnar hon, sylweddolais i fod disgwyl i famau wneud llawer o bethau ac y gall fod yn amhosib cydymffurfio â delfrydau ein cymdeithas. Dechreuais i feithrin diddordeb mewn bwydo babanod y tu allan i'r cartref, lle rwyf wedi rhoi neges gyson i’r cyhoedd, sef peidiwch â barnu mamau. Yn 2019, ces i fy niagnosio'n awtistig. Mae hyn wedi arwain at fy ymchwil i brofiadau pobl awtistig o fwydo babanod, a fy mhrosiect wyth mlynedd a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, a fydd yn archwilio iechyd atgenhedlol pobl awtistig “o'r mislif i'r menopos”. 

Sut daethoch i weithio yn Mhrifysgol Abertawe?

Gweithiais i gyda'r Athro Amy Brown, Cyfarwyddwr y Ganolfan Llaethiad, Bwydo Babanod ac Ymchwil Drawsfudol, ar astudiaeth o fwydo ar y fron a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) tua degawd yn ôl. Pan gafodd hi gyllid i benodi uwch-swyddog ymchwil i ymuno â'i thîm, achubais i ar y cyfle ar unwaith!

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?

Mae'r rhan fwyaf o fy ymchwil y dyddiau hyn yn ymwneud â gwella iechyd oedolion awtistig. Mae hyn yn cynnwys nodi lle mae gofal iechyd yn anhygyrch a chynnig atebion a allai helpu i ddileu rhwystrau. Rwy'n gweithio gyda grŵp gwych o ymchwilwyr ac ymarferwyr iechyd proffesiynol i greu'r Grŵp Ymchwil i Famolaeth ac Awtistiaeth, a fydd yn cyfeirio menywod beichiog neu'r rhai sy'n cefnogi menywod beichiog i ymchwil ac adnoddau o'r radd flaenaf.

Yn y dyfodol, bydda i'n ehangu fy mhwyslais o'r cyfnod mamolaeth, a hoffwn i'n fawr wneud gofal iechyd o bob math yn fwy hygyrch i bobl awtistig. Ar hyn o bryd, mae pobl awtistig naw gwaith yn fwy tebygol o'u lladd eu hunain, ac rydyn ni'n marw rhwng 16 a 31 o flynyddoedd yn gynharach na'n cyfoedion niwronodweddiadol. Rwy'n gobeithio y gall fy ngwaith ymchwil helpu i wella bywydau pobl awtistig, gyda'r nod trosfwaol o leihau'r anghydraddoldeb iechyd erchyll hwn.

Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig, h.y. sut rydych chi'n meddwl y gallai helpu ein cymdeithas?

Rwyf eisoes wedi darparu canllawiau ynghylch sut gall staff mamolaeth wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch i bobl awtistig, ac rwyf wedi siarad â llunwyr polisi ac ymarferwyr ynghylch sut gellid gwella systemau. Bydd fy astudiaeth ar gyfer Ymddiriedolaeth Wellcome, Awtistiaeth o'r mislif i'r menopos, yn cynnwys datblygu dulliau ac adnoddau er mwyn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i feithrin dealltwriaeth well o awtistiaeth a sut i ddarparu gofal mwy hygyrch.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?

Bydd fy astudiaeth newydd ar gyfer Ymddiriedolaeth Wellcome yn cynnwys creu cyngor cymuned o bobl awtistig i gynnal yr astudiaeth gyda mi. Ar ôl gwneud hynny, bydda i'n recriwtio 100 o bobl awtistig ar gyfer yr astudiaeth. Rwy'n gobeithio y byddan nhw'n cymryd rhan mewn 10 cyfweliad yr un (cyfanswm o 1,000 o gyfweliadau, felly!) dros bum mlynedd. Y nod yw casglu digon o fanylion i feithrin dealltwriaeth o broblemau iechyd atgenhedlol pob dydd, profiadau o ddefnyddio gofal iechyd a'r hyn yr hoffai pobl awtistig i'r gwasanaethau iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol ei wneud yn well. Does neb wedi rhoi cynnig ar astudiaeth o'r maint a'r hyd hwn gydag oedolion awtistig o'r blaen, felly mae dechrau ar y gwaith yn destun cyffro mawr i mi, er ein bod ni'n siŵr o glywed llawer o straeon am arfer gwael.

Darganfod mwy am Dr Grant a'i gwaith ar Wella Gofal Iechyd i Bobl Awtistig