Mae Dr Mike Burgum yn Swyddog Ymchwil yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Ei brif ddiddordebau ymchwil Mike yw tocsicoleg reoleiddiol, mwtagenedd nanoddeunyddiau a nodweddu nanoddeunyddiau.

Beth yw'ch maes ymchwil?

Mae gan fy ymchwil ym maes genodocsicoleg bwyslais a diddordeb mewn proffiliau genodocsig nanoddeunyddiau. Yn y maes hwn, rwy'n archwilio prosesau gweithredu sy'n atgyfnerthu genodocsicoleg nanoddeunyddiau sy'n gallu amrywio o arwyddion mwtadiad pwynt mwtagenig, straen ocsidiol a thoriadau cromosomaidd.

Roedd traethawd ymchwil fy PhD wedi canolbwyntio ar berygl mewnanadlu nanoddeunyddiau graffîn lle datblygais fy arbenigedd mewn modelau in vitro o'r ysgyfaint dynol.

Dr Mike Burgum

Mae fy rôl ôl-ddoethurol (bresennol) fel swyddog ymchwil wedi fy ngalluogi i symud yn agosach at docsicoleg reoleiddiol, yn benodol addasu canllawiau'r OECD i gynnwys profi nanoddeunyddiau.

Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn?

Roeddwn i bob amser am weithio ar broblemau byd go iawn â goblygiadau go iawn i gymdeithas. Mae newid o danwyddau ffosil i ynni adnewyddadwy'n enghraifft o hyn ac mae'n hanfodol wrth helpu i gyflawni economi carbon isel, er nad yw'r llwybr hwn yn syml gan fod technolegau adnewyddadwy'n ddrutach, ac mae rhai ohonyn nhw'n anaeddfed. Felly, mae polisïau llywodraethau'n bwysig er mwyn llywio ymddygiad y farchnad a newid dewisiadau buddsoddi.

Fodd bynnag, mae newidiadau i bolisi'n gwneud i fuddsoddwyr deimlo'n ansicr ac amau effeithlonrwydd y polisi. Er enghraifft, mae cymorthdaliadau tuag at osod paneli solar mewn cartrefi wedi annog buddsoddiad yn bennaf o ganlyniad i'r enillion mawr, ond mae'r cymorthdaliadau wedi lleihau'n sylweddol ers i'r polisi gael ei roi ar waith yn y lle cyntaf, gan beri pryder i ddefnyddwyr ynghylch mabwysiadu'r dechnoleg newydd. A minnau’n economegydd, gall fy arbenigedd mewn dadansoddi economaidd gynnig dealltwriaeth er mwyn dehongli polisïau ynni o'r fath.

Sut daethoch i weithio yn Mhrifysgol Abertawe?

Ymunais i â Phrifysgol Abertawe yn 2016 fel cynorthwy-ydd ymchwil yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe, a roddodd gyfle i mi fagu fy sgiliau ymchwil a chael profiad ymchwil amhrisiadwy. Yn dilyn hynny, ymunais i â'r Adran Economeg fel darlithydd gan fy mod i hefyd am ddatblygu fy sgiliau addysgu, ynghyd â rhyngweithio'n fwy cyson â myfyrwyr. Rwyf wedi cwrdd â llawer o bobl anhygoel ym Mhrifysgol Abertawe ac rwyf wedi mwynhau fy amser yma'n fawr iawn.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil?

Rwy'n gobeithio y gall fy ymchwil helpu rhagor o bobl i ddeall sut mae polisïau ynni'n dylanwadu ar eu bywyd pob dydd a sut gall ynni adnewyddadwy wella cymdeithas. Rwyf hefyd yn gobeithio, wrth i mi barhau i ehangu fy mhortffolio o brosiectau ymchwil, y galla i weithredu fel pont sy'n cysylltu'r diwydiant ynni â'r sector cyhoeddus. Byddai creu effaith a chyfrannu at lunio polisïau cadarn er mwyn gwella effeithlonrwydd yn y farchnad ynni'n nod allweddol.

Pa ddibenion ymarferol y gallai eich ymchwil eu cynnig? 

Mae arweiniad llymach ar brofi genowenwyneg ar nanoddeunddiau'n sicrhau bod mwy a mwy o gyhoeddiadau'n ddibynadwy wrth adrodd am ddata a'i ddehongli. Mae hyn yn ei gwneud hi'n llawer haws rheoleiddio a rheoli cynhyrchu a chymhwyso'r deunyddiau hyn. Yn y bôn, gwneud y byd yn fwy diogel i'r sectorau diwydiannol, galwedigaethol, defnyddwyr a meddygol.

Beth sydd nesaf o ran eich ymchwil? 

Ar ôl archwilio sawl maes genowenwyneg, mae fy niddordeb pennaf mewn agweddau rheoleiddiol gan mai dyma'r maes rwy'n teimlo y gallaf gael yr effaith fwyaf gyda'r profiad rwyf wedi'i ennill.

Darganfod mwy am Dr Mike Burgum