Beth yw'ch maes ymchwil?

Mae fy ymchwil yn rhychwantu addysg a pholisi cymdeithasol ac mae'n canolbwyntio'n fras ar faes anghenion dysgu ychwanegol (ALN) neu anghenion addysgol arbennig (SEN) ar draws systemau a lleoliadau addysg amrywiol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu'r system addysg yng Nghymru. Hefyd yn fwy diweddar, rydw i wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i archwilio effaith COVID-19 ar addysg.

Dr Cathryn Knight

Sut dechreuodd eich diddordeb yn y maes hwn? 

Ers cael fy nghydnabod yn ddyslecsig pan oeddwn i'n 17 oed, rwyf wedi ymddiddori mewn archwilio sut y gallai fy agwedd a'm canlyniadau fod wedi bod yn wahanol pe bai hyn wedi'i gydnabod pan oeddwn i'n iau. Yn benodol, sut y gallai'r label fod wedi effeithio ar fy nghanlyniadau a'm huchelgeisiau addysgol; a fyddai wedi effeithio ar fy hunanymwybyddiaeth a'm hunanbarch o safbwynt academaidd? Mae hyn wedi gwneud imi holi a yw systemau addysg presennol y DU wedi'u trefnu yn y ffordd orau i gefnogi dysgwyr ag anghenion ychwanegol, a sut y gallem weithio gydag ymarferwyr a'r system ehangach yng Nghymru i sicrhau nad oes unrhyw ddysgwyr dan anfantais.

Sut daethoch i weithio yn Prifysgol Abertawe?

Ar ôl gorffen fy ngradd israddedig mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caint (2013), bues i'n gweithio mewn ysgol gynradd yng Nghymru fel cynorthwy-ydd addysgu. Gwnaeth hyn ennyn fy niddordeb mewn ALN yn system addysg Cymru ac o ganlyniad cyflwynais i gais i wneud fy PhD yn y maes hwn ym Mhrifysgol Caerdydd (wedi'i ariannu gan ddyfarniad hyfforddiant doethurol 1+3 gan yr EPSRC). Yn ystod fy PhD, gwnes i interniaeth gyda Llywodraeth Cymru lle bues i'n dadansoddi dangosyddion allweddol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Wedi canolbwyntio ar bolisi ac addysg Cymru, roeddwn i'n awyddus i barhau i weithio yng Nghymru, yn fwy fyth wrth i Gwricwlwm newydd Cymru a'r ddeddfwriaeth ALN newydd gael eu rhoi ar waith. Mae'r Ysgol Addysg newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn lle perffaith i ddatblygu cysylltiadau cryf yn system addysg Cymru a hefyd yn rhyngwladol, sydd wedi arwain at ymchwil llawn effaith yn y maes hwn.

Beth rydych chi'n gobeithio ei gyflawni gyda'ch ymchwil? 

Rydym ar fin gweld diwygiadau mawr i addysg yng Nghymru, wrth i gwricwlwm a system ALN newydd gael eu rhoi ar waith dros yr ychydig  flynyddoedd nesaf. At hynny, mae Covid-19 wedi tarfu ar yr holl systemau addysg - a'r holl ddysgwyr ac ymarferwyr - ac mae hyn wedi darparu mewnwelediad pwysig inni o ran yr hyn y gallwn ei ddysgu o'r newid i 'addysgu o bell mewn argyfwng' a modelau mwy sefydlog ar gyfer dysgu, addysgu ac asesu ar-lein. Mae'n glir bod angen i Gymru (ac awdurdodaethau eraill) ddeall yn well yr effeithiau tymor byr a hwy, gyda gwaith ymchwil a dadansoddi cadarn a thrylwyr. Yn benodol, wrth inni edrych tuag at system addysg fwy cynhwysol yng Nghymru, rwy'n gobeithio y gallwn edrych y tu hwnt i agweddau ac arferion meddygol o ran anghenion dysgu a dechrau deall y rhwystrau cymdeithasol sy'n atal dysgwyr rhag cyflawni eu potensial llawn, a gweithio tuag at ddileu rhai o'r rhain.  Nod fy ymchwil yw mynd i'r afael â'r maes hwn; rwy'n gobeithio y bydd modd i ganlyniadau fy ymchwil bresennol sicrhau newid a buddion cadarnhaol i'r holl ddysgwyr.  

Darganfyddwch fwy am Dr Knight