Yr atebion i'ch cwestiynau
Mae'r wybodaeth isod yn berthnasol i 2020/21
ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR
Pa delerau talu sydd ar gael?
Mae angen talu ffioedd dysgu yn llawn adeg cofrestru ond mae’r Brifysgol yn ymwybodol o’r baich ariannol a all godi yn sgil talu ffioedd dysgu, ac felly bydd yn caniatáu i fyfyrwyr dalu fesul 3 randaliad (33%, 33% a 34%).
Sylwer, nid yw unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau y gallech fod wedi'u hennill yn cyfrif tuag at eich rhandaliad cyntaf. Er enghraifft, pe bai rhaid i chi dalu ffioedd o £5,500 a dyfarnwyd ysgoloriaeth o £1,000 i chi, byddai gennych 3 rhandaliad o 33%, 33% a 34%.
Os dewiswch dalu fesul rhandaliad, byddwn yn gofyn i chi gyflwyno mandad debyd uniongyrchol dilys wrth gofrestru neu cyn hynny. Yna byddwn yn trefnu casglu'r ffioedd fesul 3 randaliad ar y dyddiadau canlynol, gan ddibynnu ar fath a dyddiad dechrau eich cwrs.
Math o Gwrs | Dyddiad Dechrau | Rhandaliad Cyntaf | Ail Randaliad | 3ydd Rhandaliad |
---|---|---|---|---|
Ôl-raddedig a Addysgir | Medi 2020 | 06/11/2020 (33%) | 05/02/2021 (33%) | 07/05/2021 (34%) |
YMCHWIL ÔL-RADDEDIG
Mae’r trefniadau talu ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir ychydig yn wahanol i'r rhai ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Y prif reswm am hyn yw bod Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir yn dilyn strwythur y flwyddyn academaidd Israddedig yn fras, ond mae myfyrwyr Ymchwil yn cofrestru ar sail cylch treigl o 12 mis.
Gweler dyddiadau dechrau Ymchwil a dyddiadau talu isod:
Math o Gwrs | Dyddiad Dechrau | Rhandaliad Cyntaf | Ail Randaliad |
---|---|---|---|
Ymchwil Ôl-raddedig | Ebrill-19 | 05/07/2019 | 08/11/2019 |
Ymchwil Ôl-raddedig | Gorffennaf-19 | 08/11/2019 | 03/04/2020 |
Ymchwil Ôl-raddedig | Hydref-19 | 08/11/2019 | 03/04/2020 |
Ymchwil Ôl-raddedig | Ionawr-20 | 06/02/2020 | 05/07/2020 |
Ymchwil Ôl-raddedig | Ebrill-20 | 07/05/2020 | 04/09/2020 |
Ymchwil Ôl-raddedig | Gorffennaf-20 | 04/09/2020 | 05/02/2021 |
(Myfyrwyr Ymchwil Rhyngwladol yn talu 50% ar adeg cofrestru)