Coronafeirws: y diweddaraf
Astudiaeth aruchel gan arbenigwyr yn amlygu arferion adar esgynnol. Llun: Facundo Vital

Yn wir, mae condor yr Andes – sef aderyn esgynnol trymaf y byd, a all bwyso hyd at 15kg – yn chwifio ei freichiau un y cant o'r amser y mae yn yr awyr. Llun: Facundo Vital

Mae ymchwil newydd wedi datgelu nad yw'r adar mwyaf yn dibynnu ar chwifio eu hadenydd er mwyn symud yn yr awyr. Yn hytrach na hynny, maent yn defnyddio ceryntau aer i'w cadw yn yr awyr am oriau ar y tro. 

Yn wir, mae condor yr Andes – sef aderyn esgynnol trymaf y byd, a all bwyso hyd at 15kg – yn chwifio ei freichiau un y cant o'r amser y mae yn yr awyr.

Mae'r astudiaeth yn rhan o gydweithrediad rhwng yr Athro Emily Shepard o Brifysgol Abertawe a Dr Sergio Lambertucci yn Ariannin, sy'n defnyddio technoleg recordio yn yr awyr o'r radd flaenaf ar gondoriaid yr Andes. Mae'r rhain yn cofnodi pob curiad adain ac achos o droi a throelli yn ystod y daith wrth i gondoriaid chwilio am fwyd.

Roedd y tîm am wybod mwy am y ffordd y mae ymdrechion hedfan adar yn amrywio yn ôl amgylchiadau amgylcheddol. Bydd eu casgliadau'n helpu i wella dealltwriaeth o allu adar mawr i esgyn a'r amgylchiadau penodol sy'n gwneud hediad yn anfanteisiol.

Yn ystod yr astudiaeth, darganfu'r ymchwilwyr fod mwy na 75 y cant o weithgarwch chwifio'r condoriaid yn ymwneud â'r esgynfa.

Fodd bynnag, ar ôl iddynt gyrraedd yr awyr, gall condoriaid barhau i esgyn am gyfnodau hir mewn amrywiaeth o wyntoedd ac amgylchiadau thermol – llwyddodd un aderyn i beidio â chwifio ei adenydd am bum awr, gan deithio tua 172km neu fwy na 100 milltir.

Datgelir y casgliadau mewn papur newydd, sef Physical limits of flight performance in the heaviest soaring bird, sydd newydd gael ei gyhoeddi gan Proceedings of the National Academy of Sciences.

Meddai Dr Hannah Williams, sydd bellach yn Sefydliad Ymddygiad Anifeiliaid Max Planck. “Wrth wylio adar o farcutiaid i eryrod yn hedfan, efallai y byddwch yn amau a ydynt yn chwifio eu hadenydd o gwbl.

“Mae'r cwestiwn hwn yn bwysig, gan fod damcaniaethau'n dweud wrthym y bydd adar mor fawr â chondoriaid yn ddibynnol ar esgyn er mwyn symud.

“Datgelodd ein canlyniadau nad oedd nifer y weithiau roedd yr adar yn chwifio eu hadenydd yn newid yn sylweddol yn ôl y tywydd.

“Mae hyn yn awgrymu bod penderfyniadau ynghylch ble a phryd i lanio yn hanfodol, gan fod angen i gondoriaid esgyn i'r awyr eto, a bod glanio'n ddiangen yn ychwanegu'n sylweddol at ymdrech gyffredinol yr hediad.”

Dywedodd yr Athro Shepard, sy'n rhan o Labordy Abertawe ar gyfer Symudiad Anifeiliaid, fod y ffaith bod yr holl adar a astudiwyd yn anaeddfed yn dangos ei bod yn bosib i gondor beidio ag ymdrechu'n ormodol wrth hedfan, hyd yn oed yn ystod ei flynyddoedd cyntaf.

Drwy edrych yn agosach, gwelwyd yr heriau roedd yr adar yn eu hwynebu wrth iddynt symud rhwng thermolion gwan. Gwelwyd bod y condoriaid yn chwifio'n fwy wrth iddynt gyrraedd diwedd yr ehedfeydd rhwng thermolion pan fyddant yn debygol o fod yn agosach at y ddaear.

Esboniodd Dr Lambertucci: “Dyma adeg allweddol gan fod angen i adar ddod o hyd i awyr sy'n codi er mwyn osgoi glanio'n annisgwyl. Mae'r risgiau hyn yn uwch pan fyddant yn symud rhwng tynfeydd thermol.

“Gall thermolion ymddwyn fel lampau lafa, wrth i fyrlymau godi'n ysbeidiol o'r ddaear pan fydd yr awyr yn ddigon cynnes. Felly, gall adar gyrraedd y lle cywir ar gyfer thermolion, ond ar yr adeg anghywir.

“Dyma enghraifft ddymunol lle gall ymddygiad yr adar gynnig cipolwg ar ymddygiad yr awyr.”

 

Rhannu'r stori