Bay Campus image
Dr Yue Gai

Dr Yue Gai

Darlithydd mewn Economeg, Economics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602934

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rydw i'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.Mae fy niddordebau ymchwil ym maes macroeconomeg gymhwysol, modelu DSGE, sadrwydd tai a sadrwydd ariannol, a'r goblygiadau polisi. Mae fy ngwaith ymchwil presennol yn canolbwyntio ar y farchnad dai yn y Deyrnas Unedig a sadrwydd ariannol yn Tsieina.

Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, roeddwn i'n gydymaith ymchwil yn Sefydliad Macroeconomeg Gymhwysol Julian Hodge ym Mhrifysgol Caerdydd.Yn ystod y cyfnod hwn, sefydlais fodel dwy-ranbarth er mwyn astudio'r her bolisi ynghylch codi lefel incwm y Gogledd i'r un lefel â'r De yn y Deyrnas Unedig.

Hefyd, gweithiais fel Athro Prifysgol ym Mhrifysgol Caerdydd ers i mi lwyddo i ennill gradd PhD mewn Economeg yn Ysgol Fusnes Caerdydd yn 2019.Mae fy mhrofiad mewn addysgu israddedig yn estyn i addysgu ôl-raddedig mewn macroeconomeg, economeg fusnes, econometreg, bancio a chyllid.

Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr PhD mewn meysydd macroeconomeg gymhwysol a sadrwydd y farchnad dai.

Meysydd Arbenigedd

  • Modelu DSGE
  • Macroeconomeg Gymhwysol
  • Goblygiadau polisi
  • Sadrwydd y Farchnad Dai a Sadrwydd Ariannol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, roeddwn yn Athro Prifysgol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn ddarlithydd rhan-amser ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.  Rwyf wedi addysgu ystod o fodiwlau ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae fy mhortffolio addysgu'n cynnwys macroeconomeg, microeconomeg, bancio a chyllid, economeg busnes ac econometreg.

Cydweithrediadau