Bay Campus image
Dr Ilias Asproudis

Dr Ilias Asproudis

Darlithydd, Economics

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
204
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Dr Ilias (Elias) Asproudis ag Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe ym mis Mawrth 2016 fel Darlithydd mewn Economeg.

Mae ganddo PhD mewn Economeg o Ysgol Busnes ac Economeg Prifysgol Loughborough, y DU. Mae ganddo MSc/MBA mewn Trefnu a Gweinyddu Systemau Diwydiannol gydag arbenigedd mewn Rheoli Ynni a Diogelu'r Amgylchedd o Brifysgol Piraeus ac o Brifysgol Dechnegol Genedlaethol Athen, Gwlad Groeg. Hefyd, enillodd BSc mewn Economeg o Brifysgol Crete, Gwlad Groeg.

Mae ganddo brofiad o addysgu ym Mhrifysgol Northampton, Prifysgol Nottingham Trent a Phrifysgol Loughborough.

Cyflwynwyd rhan o'i ymchwil mewn cynadleddau rhyngwladol fel y Gymdeithas Ewropeaidd dros Ymchwil mewn Economeg Ddiwydiannol, y Gymdeithas Economaidd Frenhinol a’r Gymdeithas Ewropeaidd dros Economegwyr Amgylcheddol ac Adnoddau. Mae wedi cyhoeddi ei waith mewn cyfnodolion academaidd rhyngwladol.

Meysydd Arbenigedd

  • Economeg Amgylcheddol a Pholisi Amgylcheddol
  • Trefniadaeth Ddiwydiannol a Dewis Technolegol
  • Meicroeconomeg
  • Undebau Llafur a Bargeinio
  • Sefydliadau Anllywodraethol Amgylcheddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Economeg Amgylcheddol ac Adnoddau: Nod y modiwl israddedig hwn yw annog ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr amgylchedd, fel adnodd economaidd ac fel sinc gwastraff. 

Economeg Llafur: Mae'r modiwl israddedig hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o weithrediad marchnadoedd llafur o safbwynt damcaniaethol a sefydliadol. 

Dulliau Ymchwil: Mae'r modiwl ôl-raddedig hwn yn cychwyn gydag adolygiad o dechnegau mathemategol ac ystadegol/econometrig allweddol cyn symud ymlaen i gymwysiadau mwy ymarferol drwy ddefnyddio meddalwedd ystadegol/econometrig a mathemategol. Mae hefyd yn cynnwys sesiynau ar chwilio cronfa ddata lyfryddol a ffynonellau data, a fydd yn fuddiol ar gyfer traethodau hir