Swansea Bay Campus
Dr Jonathan James

Dr Jonathan James

Uwch-ddarlithydd, Economics

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
409
Pedwerydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Maes arbenigedd Jonathan yw macroeconomeg. Yn y maes hwn mae wedi cynhyrchu a chyhoeddi nifer o bapurau gyda chyd-awdur sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ddylunio’r gyfundrefn ariannol optimaidd yn enwedig o ran a ddylai banc canolog ddatgelu i'r cyhoedd ei asesiad ei hun o gyflwr yr economi. Mae un llwybr ymchwil y mae Jonathan wedi cyfrannu ato yn ymwneud â damcaniaeth facro-economaidd economïau undebol, tra bod ei waith yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi ymchwilio i oblygiadau cynllunio polisi pan fo asiantau yn cael gwybod mewn modd heterogenaidd am ergydion macroeconomaidd (er enghraifft, gostyngiadau mewn mewn teimladau defnyddwyr neu hyder busnes sy'n effeithio ar alw cyfanredol, neu ddatblygiadau ochr gyflenwi sy'n dylanwadu ar gynhyrchiant, fel epidemigau firws yn amharu ar rwydweithiau cyflenwi neu ddigwyddiadau tywydd sy'n effeithio ar gynnyrch cnydau). Mae’r cyfnodolion academaidd sydd wedi cyhoeddi papurau a gafodd eu cyd-ysgrifennu gan Jonathan yn cynnwys American Economic Review, Journal of Money, Credit & Banking, a Journal of Economic Behavior.

Meysydd Arbenigedd

  • Macroeconomeg
  • Economeg ariannol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ar hyn o bryd, mae Jonathan yn addysgu economeg ariannol ar lefel MSc ac economeg fathemategol (fel damcaniaeth optimeiddio a gwahaniaethau cymhwysol a hafaliadau gwahaniaethol) i israddedigion blwyddyn derfynol.  Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hefyd wedi dysgu theori macroeconomaidd a microeconomaidd i israddedigion y flwyddyn derfynol a rhai ar lefel ganolradd.

Cydweithrediadau