Bay Campus image
male

Dr Wayne Thomas

Uwch-ddarlithydd, Economics

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
217
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Astudiodd Dr Thomas ym Mholytechnig Gogledd Swydd Stafford, Coleg Queen Mary, Prifysgol Llundain, Prifysgol British Columbia a Phrifysgol Bryste. Derbyniodd ei PhD mewn Economeg o Brifysgol Bryste ym 1996 ar rôl gwybodaeth ac ansicrwydd mewn penderfyniadau disgyblion ac enillodd gymrodoriaeth Lionel Robbins mewn addysg. Mae wedi dysgu ym Mhrifysgol Bryste, Prifysgol British Columbia a Phrifysgol Gorllewin Lloegr cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe yn 2019. Yn ogystal, cyflogwyd Dr Thomas yn y Sefydliad Ymchwil Cyflogaeth o 1988-1990.

Mae diddordebau ymchwil Dr Thomas yn cael eu llywio’n bennaf gan ei brofiadau ei hun fel disgybl ac yna fel myfyriwr, ac yn canolbwyntio ar y rôl a chwaraeir gan anghydraddoldeb o ran mynediad at wybodaeth ac effeithiau grwpiau cyfoedion wrth wneud penderfyniadau addysgol. Yn ddiweddar, ar ben hynny, mae Dr Thomas wedi dechrau ymddiddori ym maes economeg hapusrwydd.

Yn ogystal â’i waith academaidd, roedd Dr Thomas hefyd yn gogydd/perchennog bwyty llysieuol llwyddiannus rhwng 2007 a 2017.

Meysydd Arbenigedd

  • Economeg addysg a dewis myfyrwyr
  • Economeg hapusrwydd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ar hyn o bryd, mae’n addysgu Micro-economeg ac Ystadegau i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, a Micro-econometreg ac Economeg Ryngwladol i fyfyrwyr trydedd flwyddyn.

Yn y gorffennol, mae Dr Thomas wedi dysgu Econometreg ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, Macro-economeg a Micro-economeg ar lefel israddedig ac ôl-raddedig yn ogystal ag Economeg Datblygu i’r flwyddyn olaf ac Economeg Fathemategol ar lefel blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn.

Ymchwil Prif Wobrau