Bay Campus image
Dr Dilshad Jahan

Dr Dilshad Jahan

Darlithydd, Economics

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
206
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae Dr Dilshad Jahan yn ddarlithydd mewn Economeg yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Derbyniodd ei PhD mewn Economeg o Brifysgol Heriot-Watt yn 2016. Mae ganddi MSc gyda rhagoriaeth mewn Cyllid Rhyngwladol o Brifysgol Dundee, ac MSS a BSS mewn Economeg o Brifysgol Dhaka.

Ymhlith diddordebau ymchwil Dilshad mae macro-economeg, economeg ariannol, a rôl datblygu ariannol mewn twf economaidd. Roedd ei PhD yn ymchwilio i drosglwyddiad y gyfradd gyfnewid, dosbarthiadau cyfundrefnau polisi ariannol, a’r berthynas rhwng twf economaidd a datblygiad ariannol ar draws ystod amrywiol o wledydd.

Mae ganddi ddiddordeb mewn goruchwylio myfyrwyr PhD ym meysydd macro-economeg, polisi ariannol ac economeg ryngwladol.

Meysydd Arbenigedd

  • Macro-economeg ac Economeg Ryngwladol
  • Econometreg Gymhwysol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ers 2015, mae Dilshad wedi bod yn addysgu modiwlau israddedig ac ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd, mae’n addysgu mathemateg, macro-economeg a materion cyfredol ar lefel israddedig ac economeg ar gwrs rheoli ac arwain MSc Peirianneg.

Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, roedd Dilshad yn gynorthwyydd addysgu graddedigion ym Mhrifysgol Heriot-Watt ac yn dysgu nifer o fodiwlau israddedig.