Prifysgol Abertawe, Campws y Bae
Professor David Blackaby

Yr Athro David Blackaby

Athro Emeritws (Ysgol Reolaeth), Management School

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae David yn Athro Emeritws mewn Economeg.

Rhwng 1996 a 2005 roedd David yn Bennaeth Economeg, rhwng 2005 a 2008 roedd yn Ddirprwy Bennaeth yr Ysgol Fusnes ac Economeg, a rhwng 2012 a 2013 roedd yn Gyfarwyddwr Ymchwil y Coleg Busnes, Economeg a'r Gyfraith. Bu'n aelod o Bwyllgor y Gymdeithas Economaidd Frenhinol ar gyfer Menywod mewn Economeg 2002-2011 a rhwng 1991 a 1995 roedd yn gynullwr Grŵp Astudio Economeg Llafur.

Roedd yn aelod o baneli Busnes a Rheoli a phaneli Economeg ac Econometreg ar gyfer REA2008 a REF2014. Ar hyn o bryd, mae'n Ddirprwy Gadeirydd Panel Busnes a Rheoli REF2021. Yn 1999, 2006 a 2014 roedd yn aelod o banel yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (“QAA”), yn gyfrifol am ysgrifennu'r datganiad meincnod ar gyfer Economeg. Roedd hefyd yn aelod o'r panel ABS, yn cynhyrchu Canllaw Ansawdd Cyfnodolion Academaidd 2008-2011. Mae cyfrifoldebau ESRC David yn cynnwys bod yn aelod o'r Bwrdd Adnoddau Ymchwil 2006-2010, Uwch Arholwr (Economeg) ar gyfer cystadleuaeth PhD 2003-2006, Cadeirydd y Panel Cydnabod Hyfforddiant Ôl-radd ar gyfer Economeg 2007 a Dirprwy Gadeirydd yn 2005. Roedd yn aelod o Grŵp Llywio CHUDE 2001-2010 a Chorff Adolygu Cyflogau'r GIG 2009-2015.

Meysydd Arbenigedd

  • Marchnadoedd Llafur
  • Economeg Ranbarthol
  • Polisi Cyhoeddus
  • Economi Cymru

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae ei ddiddordebau addysgu ym maes economeg llafur, economeg ranbarthol, hanes economaidd a pholisi cyhoeddus.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau