singleton Campus image

Dr Gemma Xu

Darlithydd mewn Economeg, Economics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 987397

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Enillodd Dr Chen Xu ei PhD mewn Economeg o Brifysgol Caerdydd yn 2018. Roedd hi wedi gweithio fel Cymrawd Ymchwil a Chydymaith Ymchwil amser llawn ym Mhrifysgol Sussex a Phrifysgol Caerdydd cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe fel Darlithydd.

Ei diddordebau ymchwil yw Economeg Ranbarthol, Economeg Ddiwydiannol, gan gynnwys yr economi ddigidol, clystyrau lled-ddargludyddion, effaith economaidd diwydiannau twristiaeth, ac economi CymruMae Dr Chen Xu wedi cymryd rhan mewn ambell brosiect ymchwil a ariennir sy'n canolbwyntio ar economi ranbarthol Cymru, gan gynnwys prosiect band eang cyflym iawn gwerth £1.5m wedi'i ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a phrosiect lled-ddargludyddion CSConnected gwerth £43m wedi'i ariannu gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Ar hyn o bryd, hi yw Prif Ymchwilydd y prosiect  “Measuring the Digital economy: A pilot Information and Communication Technology (ICT) Satellite Account for Wales” a ariennir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a Chyd-ymchwilydd y prosiect “Low Carbon Community, Low Carbon Economy: Building the Re-localised, Sustainable and Prosperous South Wales Valleys” a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Mae hi wedi cyhoeddi gwaith mewn cyfnodolion academaidd o safon, gan gynnwys Regional Studies, Annals of Tourism Research Empirical Insights, Local Economy a Welsh Economic Review, yn ogystal â chyfrannu at fonograffau amrywiol. Mae hi hefyd yn ymgymryd ag ystod o brosiectau ymchwil eraill sy'n edrych ar dechnolegau digidol a chwmnïau gweithgynhyrchu yn y DU sy'n codi tâl am wasanaethau yn hytrach na nwyddau (servitization), ecosystem entrepreneuraidd Dinas-ranbarth Caerdydd, strategaethau diwydiant lled-ddargludyddion Ewrop, a rhagolygon twristiaeth yng Nghymru, etc.

Yn ogystal, mae hi wedi'i hyfforddi mewn rhaglenni a modelu CGE gyda GAMS, ac mae hi wedi cael cryn brofiad o lawer o setiau data cyfrinachol unigol y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Byddai diddordeb arbennig gan Dr Chen Xu mewn datblygu cyfleoedd, prosiectau a syniadau ymchwil eraill er mwyn gwneud y mwyaf o'i phrofiadau, ei sgiliau a'i gwybodaeth.

Meysydd Arbenigedd

  • Economeg Ranbarthol
  • Economeg Ddiwydiannol
  • Technolegau digidol a datblygu rhanbarthol
  • Polisïau a strategaethau'r diwydiant lled-ddargludyddion
  • Effaith economaidd diwydiannau twristiaeth
  • Economi Cymru
  • Tablau mewnbwn allbwn a modelu CGE

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Dr Chen Xu yn addysgu modiwlau sy'n gysylltiedig ag Econometreg, ond mae ganddi ddiddordebau mewn ystod eang o fodiwlau hefyd, yn enwedig modiwlau sy'n gysylltiedig ag Economeg Ddiwydiannol. Yn y gorffennol, mae hi wedi addysgu Economeg Ariannol, Economeg Datblygu, Macroeconomeg, etc, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau