Swansea Bay Campus
Professor Steve Cook

Yr Athro Steve Cook

Athro Personol, Economics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602106

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Trosolwg

Wedi iddo dderbyn DPhil mewn modelu econometreg o Brifysgol Rhydychen o dan oruchwyliaeth yr Athro Syr David Hendry, symudodd Steve i Brifysgol Caergrawnt i weithio ar y prosiect Macroeconomic Modelling of the Business Cycle a ariannwyd gan yr ESRC o dan gyfarwyddyd yr Athro Sean Holly.

Ar hyn o bryd, Steve yw Pennaeth Adran Economeg Prifysgol Abertawe. Mae Steve wedi cyflawni nifer o rolau eraill yn ystod ei gyfnod yn Abertawe gan gynnwys Pennaeth Economeg, Pennaeth Cyfrifeg a Chyllid, Cyfarwyddwr Ymchwil, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Pennaeth yr Ysgol a Dirprwy Ddeon.

Mae ymchwil Steve yn rhoi sylw i ystod o bynciau ym maes econometreg. Mae ein waith wedi ymddangos mewn tua 180 o erthyglau mewn cyhoeddiadau sy’n cynnwys Journal of Applied Econometrics, Oxford Bulletin of Economics and Statistics, Cambridge Journal of Economics, Statistics and Probability Letters, Applied Mathematics and Computation, Urban Studies ac Economics Letters.

Gyda thros 50 o flynyddoedd (cydamserol!) o brofiad golygyddol gan cynnwys prif olygydd a chyfrifoldebau uwch olygydd, mae Steve bellach ar fyrddau golygyddol Applied Economics ac Applied Economics Letters. Ac yntau wedi derbyn cyllid ymchwil gan yr Academi Brydeinig a'r Academi Addysg Uwch ar gyfer prosiectau ymchwiliwr unigol, mae Steve wedi goruchwylio nifer o fyfyrwyr PhD yn llwyddiannus dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae Steve yn athro brwdfrydig mewn meysydd amrywiol, ac wedi dysgu mewn nifer o sefydliadau a derbyn cydnabyddiaeth gyson, yn genedlaethol ac yn wir yn rhyngwladol, am ei addysgu. Mae'r gydnabyddiaeth hon wedi bod ar ffurf cyhoeddi ei ddeunyddiau addysgu arloesol yn rheolaidd, cyhoeddi ymchwil pedagogaidd, darparu gweithdai ac anerchiadau cenedlaethol, cyflwyno ymchwil pedagogaidd mewn cynadleddau rhyngwladol blaenllaw, derbyn cyllid ar gyfer arloesedd addysgu o'r AAU a derbyn nifer o wobrau addysgu cenedlaethol. Mae Steve, sy'n aelod o’r Board of Associates of the Economics Network, wedi gweithredu fel arholwr allanol, adolygydd rhaglen ac archwiliwr adrannol mewn nifer o sefydliadau dros nifer o flynyddoedd. Ar hyn o bryd, mae Steve hefyd yn arholwr allanol ar gyfer Economeg israddedig yng Ngholeg y Brenin, Llundain.

Fel cydnabyddiaeth o effaith a dylanwad ei weithgareddau addysgu y tu hwnt i'w sefydliad ei hun, mae Steve yn un o nifer gyfyngedig o academyddion yn fyd-eang sydd â statws Prif Gymrodoriaeth HEA ac Uwch Gymrodoriaeth SEDA. 

Meysydd Arbenigedd

  • Econometreg Cyfres Amser
  • Efelychu Rhifiadol
  • Econometreg Gymhwysol
  • Economeg Tai Gofodol
  • Ymchwil Bedagogaidd
  • Arloesedd Addysgu

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
  • Econometreg Cyfres Amser
  • Econometreg Gymhwysol
  • Rhagfynegi Cyfres Amser
  • Economeg Fathemategol
  • Ystadegau Cymhwysol a Damcaniaeth Ystadegol
Prif Wobrau Cydweithrediadau