Bay Campus image
female smiling

Dr Lucy Barros

Darlithydd, Economics

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
423
Pedwerydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Diddordebau ymchwil Lucy yw macro-economeg gymhwysol, twf economaidd ac economi wleidyddol.

Mae rhywfaint o’i gwaith diweddar yn edrych ar gyllid llywodraeth leol yn Tsieina a’i pherthynas â thwf ac anghydraddoldeb rhanbarthol. Mae’r ymchwil hon yn rhan o brosiect rhyngwladol ar fancio cysgodol ac economi Tsieina. Mae Lucy yn Gyd-Ymchwilydd ar y prosiect, sy’n cael ei ariannu gan ESRC, Cronfa Newton a Sefydliad Cenedlaethol Gwyddoniaeth Naturiol Tsieina. Mae’n cydweithio ar hyn gydag ymchwilwyr o Brifysgol Fudan a Phrifysgol Economeg a’r Gyfraith Zhongnan yn Tsieina, ac o Ysgol Fusnes Caerdydd a Phrifysgol Manceinion yn y DU.

Mae prosiectau eraill sydd ar waith yn ymwneud â rhyngweithiadau polisi ariannol ag anghydraddoldeb cyfoeth a defnydd, a chyda’r farchnad dai.

Mae gwaith cyhoeddedig cynharach Lucy yn ymchwilio i effeithiau polisi arloesi ar allbwn a chynhyrchiant y DU dros amser, gan ddefnyddio econometreg sy’n seiliedig ar efelychu (casgliad anuniongyrchol).

Anogir myfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio ar gyfer PhD mewn macro-economeg gymhwysol i wneud cais.

Graddiodd Lucy o Brifysgol Rhydychen yn 2007 ac mae ganddi PhD mewn Economeg o Brifysgol Caerdydd, wedi’i hariannu gan Wobr Cystadleuaeth Agored ESRC. Bu’n gymrawd ymchwil ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2015 cyn ymuno ag Adran Economeg Abertawe fel Darlithydd ym mis Rhagfyr 2016.

Mae’n gymrawd o’r Academi Addysg Uwch ac mae ganddi Dystysgrif Ȏl-raddedig mewn Addysg Uwch o Brifysgol Abertawe.

Meysydd Arbenigedd

  • Macro-economeg gymhwysol
  • Modelu cydbwysedd cyffredinol stocastig deinamig (DSGE)
  • Twf economaidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ers 2009 mae Lucy wedi dysgu amrywiaeth o fodiwlau ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys theori facro-economaidd uwch, twf a datblygiad economaidd, econometreg cyfres amser, a pholisi economaidd y DU.

Mae ei haddysgu presennol yn canolbwyntio ar theori facro-economaidd, polisi cyhoeddus ac economi wleidyddol.

Ymchwil