Bay Campus image
Professor Phil Murphy

Yr Athro Phil Murphy

Athro Emeritws (Ysgol Reolaeth), Management School

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
213
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Mae Philip Murphy yn Athro Emeritws Economeg ym Mhrifysgol Abertawe. Cyn ymuno ag Abertawe yn 1991, bu Philip yn ddeiliad swyddi academaidd ym mhrifysgolion Manceinion, East Anglia, Aberdeen ac IUPIU (UDA).

Yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, bu’n ddeiliad nifer o swyddi academaidd uwch gan gynnwys Pennaeth Ymchwil mewn Economeg, Pennaeth Economeg, Pennaeth Cyfrifeg, Economeg a Chyllid, a Phennaeth yr Ysgol Fusnes ac Economeg.

Mae diddordebau ymchwil Philip yn ymwneud yn bennaf â maes economeg llafur cymhwysol, ac mae ei waith wedi’i gyhoeddi mewn ystod eang o gylchgronau rhyngwladol gan gynnwys yr Economic Journal, Oxford Economics Papers, Oxford Bulletin of Economics and Statistics, Economics Letters a Regional Studies. Mae hefyd wedi derbyn grantiau ymchwil gan amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a phreifat gan gynnwys yr ESRC, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Llywodraeth Cymru, BP, a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mae ei waith diweddar wedi canolbwyntio ar gyflogau’r sector cyhoeddus, economeg lles a chyfalaf cymdeithasol, ac iechyd ac addysg.

Meysydd Arbenigedd

  • Economeg llafur gymhwysol
  • Economeg gwahaniaethu
  • Cyflogau’r sector cyhoeddus
  • Deilliannau iechyd ac addysg
  • Lles a chyfalaf cymdeithasol