Trosolwg
Mae diddordebau ymchwil Dr Yuzhi Cai ym meysydd econometreg ariannol, swyddogaeth cwantil a modelu atchweliad cwantil, ystadegau cyfrifiannol. Mae ei hymchwil yn aml yn cynnwys datblygiadau newydd o fodelau a methodolegau ystadegol uwch.
Mae ei hymchwil wedi arwain at lawer o gyhoeddiadau o ansawdd uchel mewn cyfnodolion rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid, gan gynnwys: Biometrika, Journal of Financial Econometrics, Econometric Reviews, Journal of Time Series Analysis, Journal of Forecasting, Statistica Sinica, Computational Statistics and Data Analysis, Extremes, SIAM Journal on Numerical Analysis and Economic Modelling.
A chanddi gefndir mewn ystadegau, mae hi'n gweithio gyda chydweithwyr o feysydd pwnc eraill gan gynnwys biowyddoniaeth, gwyddorau cymdeithasol a pheirianneg. Cefnogwyd rhai o'i phrosietau ymchwil gan gyrff ariannu ymchwil allanol, gan gynnwys EPSRC, yr UE ac ESRwwwC Cymru DTC, ac mae rhai o'i phapurau ymchwil hefyd wedi'u cyhoeddi mewn cyfnodolion blaenllaw yn y meysydd pwnc hyn megis Coastal Engineering and Frontiers in Ecology and the Environment, a Journal of Flood Risk Management etc.
Mae hi'n goruchwylio myfyrwyr PhD. Mae pynciau'r prosiectau ymchwil PhD yn canolbwyntio'n bennaf ar econometreg ariannol a chyllid meintiol. Mae ganddi ddiddordeb mewn goruchwylio prosiectau ymchwil meintiol.