Bay Campus overview
Ms Sue Evans

Ms Sue Evans

Athro Cyswllt, Accounting and Finance

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd
231
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae gan Sue gefndir proffesiynol mewn cyfrifyddu rheoli a thros 40 o flynyddoedd o brofiad addysgu ym meysydd addysg bellach, addysg uwch a’r sector preifat, trwy ei chwmni hyfforddi sy’n darparu rhaglenni papurau proffesiynol yr ACCA. Graddiodd Sue o Bolytechnig Cymru a Phrifysgol Caerdydd, ac mae’n Gymrawd Uwch yr Academi Addysg Uwch (SFHEA). 

Mae gan Sue brofiad helaeth o reoli rhaglenni, o’i phrofiad blaenorol fel Cyfarwyddwr Rhaglen y BSc Cyfrifeg a Chyllid ac fel Cyfarwyddwr Rhaglen cyfredol rhaglenni gradd Sylfaen yr Ysgol Reolaeth. Cyn iddi ymgymryd â’r rôl hon, bu Sue yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r Ysgol.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfrifyddu rheoli
  • Cyflogadwyedd
  • Hygyrchedd
  • Cynwysoldeb
  • Cydweithio Digidol
  • Mannau dysgu gweithredol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae ei diddordebau addysgu yn cynnwys cyfrifyddu rheoli ar lefel israddedig yn bennaf. Mae cyfrifyddu rheoli yn cynnwys dulliau costio a’r defnydd o dechnegau gwneud penderfyniadau mewn ystod o senarios. Yn ogystal â hyn, mae Sue wedi addysgu cyfrifeg ariannol a rheolaeth ariannol.

Ymchwil Cydweithrediadau