Bay Campus image
Mrs Tracey Williams

Mrs Tracey Williams

Associate Professor
Accounting and Finance

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604053

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
232
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Mae Tracey yn Athro Cysylltiol mewn cyfrifeg a chyllid ym Mhrifysgol Abertawe sy'n arbenigo mewn cyfrifeg ariannol a rheoli ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae gan Tracey flynyddoedd lawer o brofiad o addysgu cyfrifeg a chyllid. Mae Tracey yn Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch a chanddi gymhwyster PGCert. Dechreuodd Tracey addysgu dysgwyr proffesiynol ar gyrsiau AAT ac ACCA a symudodd i fyd addysg uwch yn 2015.

 

Mae Tracey wedi ymgymryd â sawl rôl ym Mhrifysgol Abertawe.

  • Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc Cyfrifeg Strategol
  • Cyfarwyddwr y Rhaglen llwybrau trosi ar gyfer yr MSc Cyfrifeg a Chyllid
  • Cydlynydd Anableddau Academaidd yr Ysgol Reolaeth
  • Cydlynydd Maes Pwnc Cyfrifeg a Chyllid

 

Graddiodd Tracey â gradd MEng Peirianneg Gemegol o Goleg Imperial Llundain ac wedi hynny cymhwysodd fel Cyfrifydd Siartredig ACA gyda Coopers a Deloitte. Ers cymhwyso mae Tracey wedi cael amryw o rolau ym myd diwydiant gyda blynyddoedd lawer o brofiad ymarferol o gyfrifyddu statudol a rheoli. Mae Tracey bellach yn Gymrawd Cyfrifydd Siartredig (FCA) Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr.

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfrifeg Ariannol
  • Cyfrifeg Reoli
  • Adrodd Busnes Strategol
  • Rheoli Perfformiad Uwch

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Addysgu cyfrifeg ariannol a rheoli ar lefel 6 a lefel ôl-raddedig. Cyfrifeg ariannol uwch gan gynnwys trafodion cymhleth a chyfuniadau ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig. Rheoli perfformiad uwch ar lefel ôl-raddedig gan gynnwys dadansoddi problemau busnes cymhleth ac arfarnu'r atebion.

Ymchwil Prif Wobrau