bay campus location
Llun proffil o Mohamed Elmaghri

Dr Mohamed Elmagrhi

Athro Cyswllt, Accounting and Finance

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
223
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Mohamed Elmagrhi yn Athro Cysylltiol mewn Cyfrifeg, yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer ein rhaglenni BSc Cyfrifeg, BSc Cyfrifeg a Chyllid a BSc Cyllid, ac yn Arweinydd Achredu Cyfrifeg a Chyllid yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe, Cymru, y DU.

Mae gan Mohamed PhD (Prifysgol Huddersfield), MSc gyda Theilyngdod (Prifysgol Huddersfield), a gradd BSc gyda Dosbarth Cyntaf (Prifysgol Almergheb) mewn cyfrifeg, ac mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA).

Mae enw da cenedlaethol a rhyngwladol Mohamed mewn Cyfrifeg yn tyfu'n gyson ac mae hyn yn cael ei ategu gan ei allbynnau ymchwil cynyddol, ei gyfranogiad wrth olygu cyfnodolion (h.y. bod yn aelod o fwrdd golygyddol y cyfnodolion Business Strategy and the Environment a'r International Journal of Financial Studies), cyfrannu at waith adolygu gan gyfoedion gyfnodolion academaidd a chynadleddau o fri, a chynnal hanes parhaus o oruchwylio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wrth iddynt ymgymryd â’u gwaith  a’i gwblhau.

Mae Mohamed wedi cyflwyno ei ymchwil mewn nifer o gynadleddau, gweithdai a chyfresi seminarau ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol mewn gwahanol wledydd. Mae Mohamed wedi ennill gwobrau grant ymchwil allanol gan gyrff cyllido o fri, fel yr Academi Brydeinig ac Academi Reolaeth Prydain. Mae Mohamed hefyd yn adolygydd achlysurol rheolaidd ar gyfer nifer o gyfnodolion blaenllaw, megis British Journal of Management, Accounting, Auditing and Accountability Journal, Corporate Governance: An International Review, International Business Review, Journal of International Accounting, Auditing and Taxation, European Management Review, International Journal of Finance and Economics, Business Strategy and the Environment, Journal of Applied Accounting Research, a'r International Journal of Auditing.

Meysydd Arbenigedd

  • Gyfrifeg
  • Llywodraethu
  • Atebolrwydd, Cynaliadwyedd a Moeseg
  • ESG (Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu), Newid Hinsawdd a Pherfformiad Carbon
  • Datgeliadau gwirfoddol
  • Cyflog Gweithredol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae gan Mohamed gryn dipyn o brofiad o addysgu, arholi, tiwtora a goruchwylio profiad mewn ystod eang o bynciau cyfrifeg academaidd a phroffesiynol, gan gynnwys trethiant, cyfrifyddu ariannol ac adrodd, damcaniaethau cyfrifyddu, dylunio a dadansoddi ymchwil, a llywodraethu corfforaethol ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig mewn nifer o brifysgolion a cholegau cenedlaethol a rhyngwladol.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau