Golwg o Gampws Bae o’r awyr , gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Dr Richard Baylis

Dr Richard Baylis

Athro Cyswllt, Accounting and Finance

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
227
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Graddiodd Richard o Brifysgol Abertawe gyda BSc a PhD ym maes ffiseg. Wedi hynny, ymunodd â Grant Thornton lle cymhwysodd yn Gyfrifydd Siartredig (ACA), gan ddod yn gymrawd (FCA) yn 2020.

Dechreuodd Richard ei yrfa academaidd yn Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, lle bu'n addysgu ac yn ymgymryd ag ymchwil ym meysydd adrodd ariannol, archwilio, cyfrifyddu yn y sector cyhoeddus ac yn fwy diweddar, addysgeg gyfrifyddu. 

Cyhoeddwyd ei waith mewn cyfnodolion a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan gynnwys Journal of Accounting and Economics, Accounting and Business Research ac mae wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.  Mae'n gweithredu fel adolygydd ad-hoc i sawl cyfnodolyn rhyngwladol gan gynnwys Accounting and Business Research, British Accounting Review ac Abacus.

Mae Richard wedi addysgu ar lefelau amrywiol ac ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol. Ei brif arbenigedd yw adrodd ariannol ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, ond mae hefyd wedi darparu cyrsiau pwrpasol i fyd diwydiant a nifer o gyrff yn y sector cyhoeddus (e.e. GIG Cymru a Senedd Cymru).  Mae Richard yn un o gymrodorion yr Awdurdod Addysg Uwch (FHEA) ac mae ganddo dystysgrif ôl-raddedig mewn addysgu a dysgu ar lefel prifysgol (PgCUTL).

Mae Richard wedi gweithio'n agos gyda chyrff proffesiynol ac academaidd, megis Sefydliad Siartredig Cyfrifwyr Cymru a Lloegr (ICAEW) a Chymdeithas Cyfrifeg a Chyllid Prydain, wrth ledaenu ei waith, gan roi arfer gorau ar waith a chan ymgysylltu â thirwedd addysg ac ymarfer cyfrifeg sy'n newid yn barhaus. 

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfrifeg
  • Adrodd Ariannol Rhyngwladol
  • Archwilio a sicrwydd
  • Cyfrifyddu yn y sector cyhoeddus
  • Addysg Gyfrifyddu
  • Addysg Weithredol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Adrodd ariannol

Rheoli ariannol

Dadansoddi ariannol

Archwilio

Cyfrifyddu yn y Sector Cyhoeddus

Addysg Weithredol

Cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn arferion cyfrifyddu

Ymchwil Prif Wobrau