Trosolwg
Ym Mhrifysgol Abertawe mae Ellen yn uwch-ddarlithydd cyfrifeg ac yn gydlynydd modiwlau ar gyfer nifer o fodiwlau israddedig ac ôl-raddedig. Hefyd Ellen yw Arweinydd Ymgysylltu â Myfyrwyr yr Ysgol Reolaeth.
Cwblhaodd Ellen ei Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg ym 1999 ac mae'n Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
Yn ystod ei hamser yn Abertawe, mae Ellen wedi cael ei hanrhydeddu i dderbyn sawl cymeradwyaeth gan fyfyrwyr am ansawdd ei haddysgu. Yn wir, mae ei gyrfa fel darlithydd proffesiynol wedi canolbwyntio'n helaeth ar y dysgwr, ac mae ei hymagwedd adeileddol at addysgu yn estyniad o'i diddordeb personol-broffesiynol mewn ymgysylltu â myfyrwyr a'i hangerdd drosto. Mae adborth gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn galonogol ac yn gadarnhaol, gan atgyfnerthu ei methodolegau addysgu.
Ymgysylltu â myfyrwyr yw prif waith ymchwil Ellen gan ganolbwyntio ar wella profiad y myfyrwyr drwy gyflwyno addysgu o safon ac ymgysylltu'n llwyddiannus â myfyrwyr i'w hysgogi i gyflawni eu potensial addysgol unigol. Yn 2021, cafod Ellen ei hanrhydeddu gyda Gwobr Athrawes y Flwyddyn gan yr Ysgol Reolaeth.
Yn ystod 25 o flynyddoedd Ellen fel darlithydd cymwys, mae wedi cyflwyno amrywiaeth o bynciau mewn nifer o sefydliadau addysgol.