Trosolwg
Mae Dr Giulia Fantini yn Ddarlithydd Cyllid a Chyfrifeg yn yr Ysgol Reolaeth, Adran Cyfrifeg a Chyllid, Prifysgol Abertawe.
Mae ganddi radd meistr mewn Gweinyddu a Rheoli Busnes o Brifysgol Ferrara, Yr Eidal.
Mae ganddi PhD Ewropeaidd mewn Economeg o Brifysgol Ferrara, yr Eidal, mewn cydweithrediad ag Ysgol Fusnes Cass, Llundain.
Yn 2014-2015, bu'n gweithio fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yng Nghanolfan Ragoriaeth SAFE, Tŷ Cyllid, Prifysgol Goethe, Frankfurt, Yr Almaen.
Ers 2012, mae'n Gyfrifydd ac Archwilydd Siartredig Cymwysedig (Dottore Commercialista ed Esperto Legale) yn Yr Eidal, ac mae'n meddu ar dros bum mlynedd o brofiad gwaith yn Yr Eidal a Lwcsembwrg.
Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys rheoli risg, cyllid corfforaethol, llywodraethu corfforaethol a chyflogau swyddogion gweithredol, a busnesau bach a chanolig. Mae gwaith Dr Giulia Fantini wedi cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd blaenllaw.