Bay Campus image
female smiling

Miss Emma James

Uwch-ddarlithydd, Accounting and Finance

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606316

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
230
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Mae Emma yn gyfrifydd â chymwysterau proffesiynol ac yn gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA). Mae gweithio fel rheolwraig ariannol ar gyfer cwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol wedi rhoi profiad eang iddi o weithdrefnau cyfrifeg y DU a Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol. Gyda chyfoeth o brofiad diwydiannol, mae'n ymgorffori hyn yn ei haddysgu i gynnig enghreifftiau go iawn i fyfyrwyr er mwyn dangos bod cyfrifeg yn ddiddorol ac yn bwysig yn ogystal â bod yn ddewis gyrfa gwerth chweil.

Mae ei dulliau addysgu arloesol a'i gwybodaeth arbenigol am e-ddysgu wedi ei galluogi i gyflawni'r canlyniadau gorau erioed yr adran gyfrifeg o ran deilliannau gradd ac adborth myfyrwyr. Mae cyflogwyr wedi tynnu sylw penodol at werth galwedigaethol modiwlau a grëwyd gan Emma, ac maen nhw wedi ennyn canmoliaeth myfyrwyr am fod yn fodiwlau sy'n rhoi mantais cyflogadwyedd iddyn nhw yn ystod proses recriwtio graddedigion hynod gystadleuol. Mae Emma wedi derbyn llawer o wobrau gan yr ysgol am ei chyfraniad i addysgu, gan gynnwys gwobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu ar draws y brifysgol.

Yn ystod ei hamser ym Mhrifysgol Abertawe, mae Emma wedi ymgymryd â nifer o rolau gweinyddol, gan gynnwys Cyfarwyddwr Rhaglen ac Arweinydd yr Ysgol Reolaeth ar gyfer Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe. Arweiniodd ymrwymiad Emma i addysgu a gwella profiad dysgu myfyrwyr at ddyfarniad Uwch Gymrodoriaeth gyda'r Academi Addysg Uwch yn 2017.

Y tu allan i'r brifysgol, mae gan Emma gysylltiadau cryf â chyrff proffesiynol cyfrifeg, ac mae'n gwneud gwaith allanol i ACCA yn rhinwedd ei haelodaeth o'r Panel Rhanbarthol.

Meysydd Arbenigedd

  • Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol (IFRS)
  • Cyfrifeg Ariannol
  • Systemau Cyfrifeg Cyfrifiadurol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Emma yn arbenigo mewn cynllunio a chyflwyno modiwlau ar amrywiaeth o bynciau ar gyfer pob lefel o'r rhaglen israddedig, o gyrsiau Cadw Cyfrifon sylfaenol i gyrsiau uwch ar bynciau arbenigol, fel defnyddio'r Safonau Adroddiadau Ariannol Rhyngwladol a Systemau Cyfrifeg Cyfrifiadurol.

Ar lefel ôl-raddedig, mae Emma yn darparu cymorth a goruchwyliaeth i fyfyrwyr gyda'u traethodau hir.

Ymchwil Prif Wobrau