Dr Pengfei Gao

Darlithydd mewn Cyllid
Accounting and Finance

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Pengfei Gao yn Ddarlithydd Cyllid yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe, ac mae wedi bod yn y swydd hon ers mis Mai 2025. Cyn hynny, roedd yn addysgu Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Fusnes Prifysgol Loughborough. Derbyniodd ei radd PhD mewn Cyfrifeg a Chyllid o Ysgol Fusnes Caerdydd yn 2024. Mae hefyd ganddo MSc mewn Dulliau Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol (2020) a MSC mewn Cyfrifeg a Chyllid (2019), y ddwy radd o Ysgol Fusnes Caerdydd.

Mae diddordebau ymchwil Pengfei yn canolbwyntio'n bennaf ar Dechnoleg Ariannol, datgeliad corfforaethol, arloesi corfforaethol, a chyllid cynaliadwy. Mae ganddo ddiddordeb penodol mewn dadansoddiad testunol a dysgu peirianyddol. Mae ei waith yn archwilio sut y gellir defnyddio data testunol ar raddfa fawr i ddatgelu'r hanes y tu ôl i ffigurau ariannol ac ymddygiad corfforaethol.

Mae'n croesawu cynigion ymchwil gan ymgeiswyr PhD neilltuol a brwdfrydig, yn enwedig mewn meysydd sy'n gysylltiedig â Thechnoleg Ariannol, ESG, neu gyllid corfforaethol sydd wedi'i ysgogi gan ddata.