International Business Finance (Top Up), BSc (Anrh)

100 Uchaf yn Nhablau Prifysgolion y Byd QS '24 -Mae Astudiaethau Busnes a Rheoli

myfyrwyr

Trosolwg o'r Cwrs

Sylwer: Mae’r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol yn unig.

Gall myfyrwyr o'r DU ystyried ein graddau eraill mewn Busnes a Chyllid.

Mae ein Gradd Cyllid Busnes Rhyngwladol (Atodol), sydd wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, yn eich galluogi i adeiladu ar eich dysgu academaidd blaenorol a throsglwyddo'n uniongyrchol i flwyddyn olaf gradd anrhydedd yn y DU, gan ennill gradd baglor uchel ei pharch o brifysgol yn y DU sydd â chydnabyddiaeth academaidd ryngwladol.

Drwy gydol y rhaglen blwyddyn o hyd hon, byddwch yn cryfhau eich arbenigedd mewn arloesi ariannol ac yn gwella'r sgiliau arweinyddiaeth a gwneud penderfyniadau sydd eu hangen i ffynnu yn amgylchedd busnes byd-eang cyflym heddiw.Cewch brofiad o gymysgedd deinamig o fodiwlau cyllid a busnes sy'n dod â realiti ariannol byd-eang yn fyw, gan ddyfnhau eich dealltwriaeth o sut mae cwmnïau'n codi cyfalaf, yn gwneud buddsoddiadau strategol ac yn creu gwerth hirdymor, wrth archwilio marchnadoedd ariannol, arloesi, a rheoli risg ar draws ffiniau.Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn meithrin sgiliau arweinyddiaeth a menter a fydd yn eich grymuso i feddwl yn strategol a rhagori mewn rolau rhyngwladol ar draws y sectorau bancio, buddsoddi a chorfforaethol.

Gyda ffocws cryf ar drylwyredd academaidd a chymhwyso yn y byd go iawn, mae ein gradd yn eich galluogi i ddatblygu’r y sgiliau dadansoddol, technegol a phroffesiynol sydd eu hangen i ffynnu mewn sefydliadau ariannol amlwladol, corfforaethau rhyngwladol, neu astudiaethau academaidd pellach.Gan adeiladu ar y sylfaen hon, bydd graddedigion ein Gradd BSc Cyllid Busnes Rhyngwladol (Atodol) yn gadael â set sgiliau gadarn mewn dadansoddi ariannol, meddwl strategol, a gwneud penderfyniadau moesegol, a byddant wedi'u paratoi'n dda ar gyfer ystod eang o raddau ôl-raddedig, gan gynnwys MSc Cyllid ac MSc Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol.

Pam International Business Finance (Top Up) yn Abertawe?

  • Astudiaethau achos byd go iawn sy'n sicrhau profiad ymarferol
  • Byddwch yn Astudio yn Yr Ysgol Reolaeth y buddsoddwyd £22 miliwn ynddi
  • Byddwch yn datblygu gwybodaeth am y byd go iawn gan ein darlithwyr o'r radd flaenaf sydd â phrofiad heb ei ail ym myd diwydiant ac yn y byd academaidd. 
  • Mae'r Ysgol Reolaeth wedi'i hachredu gan AACSB International, y sefydliad addysg fusnes mwyaf yn y byd, sy'n cysylltu ysgolion busnes, busnesau a dysgwyr i greu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwych.  

Eich Profiad International Business Finance (Top Up)

Ym Mhrifysgol Abertawe, credwn fod llwyddiant academaidd yn gysylltiedig ag ymdeimlad o gymuned a pherthyn. Fel myfyriwr ar ein rhaglen BSc Cyllid Busnes Rhyngwladol (Atodol), byddwch yn ymuno ag amgylchedd dysgu amrywiol, cynhwysol a chefnogol sy'n gwerthfawrogi cydweithio, parch a safbwyntiau byd-eang. Bydd gennych y cyfle i gysylltu â'ch cymheiriaid yn yr ystafell ddosbarth a'r tu hwnt iddi drwy brosiectau grŵp, cymdeithasau a arweinir gan fyfyrwyr ac ystod o weithgareddau ar lefel modiwl a rhaglen megis digwyddiadau cymdeithasol, cyfleoedd rhwydweithio a gweithdai sgiliau. Nod y profiadau hyn yw eich helpu i feithrin cysylltiadau parhaol, datblygu hyder a theimlo eich bod yn rhan o gymuned academaidd a phroffesiynol ehangach. Mae ein staff yn ymrwymedig i feithrin awyrgylch croesawgar a chynhwysol lle mae'r holl fyfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a'u cefnogi, yn academaidd, yn broffesiynol ac yn bersonol. Wrth ymuno â Phrifysgol Abertawe, yn ogystal ag ymuno â chwrs, byddwch hefyd yn rhan o gymuned academaidd fywiog a chydweithredol.

Mae'r rhaglen radd hon ar gael fel cwrs blwyddyn, amser llawn, wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol sydd wedi cwblhau cymhwyster fel Gradd Sylfaen, Diploma Cenedlaethol Uwch, neu gymhwyster cyfwerth mewn busnes, cyllid, neu gyfrifeg. Bydd y cwrs hwn yn adeiladu ar eich dysgu academaidd blaenorol ac yn eich galluogi i symud yn uniongyrchol i flwyddyn olaf gradd anrhydedd yn y DU.

Yn ogystal â'ch paratoi am yrfa fel arbenigwr cyllid mewn busnes neu sefydliad, mae gennym wasanaethau cymorth hefyd sydd ar gael i'ch helpu i ddod yn entrepreneur ac i sefydlu eich busnes eich hun. Yn ystod eich amser gyda ni, bydd gennych hefyd fynediad llawn at ein gwasanaethau cyflogadwyedd pwrpasol a chyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr Ysgol Reolaeth. 

Cyfleoedd Cyflogaeth International Business Finance (Top Up)

Mae graddedigion y BSc Cyllid Busnes Rhyngwladol (Atodol) wedi meithrin y craffter busnes ac ariannol, a'r meddylfryd byd-eang sydd eu hangen i lwyddo mewn ystod eang o rolau ar draws cyllid rhyngwladol, datblygu busnes, a menter. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r meysydd canlynol: 

  • Gwasanaethau Ariannol a Bancio
  • Buddsoddi a Rheoli Asedau
  • Technoleg Ariannol, Dadansoddi Data a Rheoli Risg
  • Y Sector Cyhoeddus a Pholisi
  • Entrepreneuriaeth ac Arloesi

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.