Trosolwg o'r Cwrs
Mae mathemateg yn sail i'r holl wyddoniaeth, busnes a thechnoleg gyfoes, gan gymhwyso syniadau mathemateg bur yn greadigol. Mae ein gradd BSc tair blynedd mewn Mathemateg Bur yn rhaglen uchel ei pharch sy'n croesawu myfyrwyr o bob cwr o'r byd.
Drwy gydol eich astudiaethau byddwch yn ymdrin â chysyniadau mathemategol sylfaenol o ddadansoddi real a chymhleth, geometreg, ac algebra llinol, haniaethol a chategoraidd, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar agweddau pur y pwnc.
Bydd eich dysgu yn cael ei lywio gan academyddion llawn ysbrydoliaeth ac o fri rhyngwladol sydd ag arbenigedd mewn ystod o bynciau mewn mathemateg bur a chymhwysol, a byddwch yn astudio mewn mannau addysgu pwrpasol wedi'u cynllunio gan fathemategwyr ac ar eu cyfer.
Byddwch yn meistroli syniadau a rhesymeg mathemateg a'u cymwysiadau, â sgiliau dadansoddol cryf, rhesymu rhesymegol, trin data a meddwl meintiol, gan adeiladu set ddymunol iawn o briodoleddau graddedigion a fydd yn eich gosod ben ac ysgwyddau uwchlaw eraill yn y farchnad gyflogaeth.
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig cyfle i chi astudio gan dreulio Blwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant.