Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd BSc Economeg yn cynnig sylfaen gref mewn egwyddorion economaidd modern a'r materion allweddol sy'n llywio tirwedd fyd-eang heddiw. Ymchwil sy'n arwain y gwaith addysgu yn Abertawe ac mae ein staff academaidd yn defnyddio arbenigedd ysgolheigaidd a phrofiad o'r byd go iawn, gan roi dealltwriaeth i chi sy'n cysylltu damcaniaeth economaidd ag ymarfer.
Byddwch yn astudio meysydd craidd damcaniaeth economaidd ynghyd â hyfforddiant mathemategol ac ystadegol, gan ddatblygu'r offer dadansoddol a’r sgiliau technegol sy'n hanfodol i gael gyrfa lwyddiannus mewn economeg. Mae modiwlau cynnar yn adeiladu ar sylfaen eang o wybodaeth ar draws microeconomeg, macroeconomeg, ystadegau, cyllid, cyfrifeg a methodoleg ymchwil. Wrth i chi ddatblygu, gallwch deilwra eich astudiaethau drwy fodiwlau arbenigol mewn meysydd megis datblygiad economeg, cyllid rhyngwladol ac economeg ymddygiad.
Wedi'i llunio i fod yn gyfoes i alwadau economi fodern, bydd y BSc (Anrh) mewn Economeg yn addas i bobl sydd am weithio fel economegydd proffesiynol, archwilio gyrfaoedd ar draws y sectorau ariannol ac economaidd neu ddilyn astudiaethau ôl-raddedig.