Trosolwg o'r Cwrs
Mae’r BA Astudiaethau Plentyndod Cynnar gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (EYPS) yn cynnig ymagwedd gyfannol sy’n seiliedig ar ddadansoddi ac astudio beirniadol at ddeall plant o enedigaeth hyd at 8 mlwydd oed. Bydd yn datblygu eich dealltwriaeth o blentyndod cynnar fel cyfnod sylfaenol, lle mae plant yn cael eu cydnabod fel aelodau galluog, cymwys a gweithredol o gymdeithas. Mae'r rhaglen wedi'i gwreiddio mewn dulliau addysgu cynhwysol, moesegol yn seiliedig ar hawliau sy'n gwerthfawrogi galluogedd, llais a phrofiadau bywyd amrywiol plant.
Fel myfyriwr ar y radd hon, byddwch yn ymgymryd ag o leiaf 700 awr o leoliad proffesiynol mewn lleoliadau plentyndod cynnar, wedi'u strwythuro fel dau ddiwrnod yr wythnos drwy gydol y rhaglen. Mae'r lleoliadau hyn wedi'u cynllunio i ddatblygu eich cymwyseddau ymarferol, gan gyd-fynd â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a gofynion Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys galluoedd arweinyddiaeth a rheoli.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn cymhwyso â Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (EYPS), a fydd yn eich galluogi i weithio gyda phlant o enedigaeth hyd at 8 oed, ar draws ystod o gyd-destunau blynyddoedd cynnar a chymunedol, gan gynnwys Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Theori), a fydd yn cael ei integreiddio i'r rhaglen, yn unol â fframweithiau'r sector, yn amodol ar gydnabyddiaeth ffurfiol gan Ofal Cymdeithasol Cymru.