Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd BA Addysg a’r Gymraeg yn gwrs tair blynedd sy'n seiliedig ar ymchwil, sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer ystod eang o yrfaoedd cyfrwng Cymraeg ym maes addysg a’r tu hwnt.
Mae addysg yn faes astudio pwysig sy'n tynnu ar ddisgyblaethau seicoleg, cymdeithaseg, athroniaeth a hanes. Yn eich modiwlau Addysg, byddwch yn cael cyflwyniad i ystod eang o bynciau gan gynnwys polisi addysg, dysgu ac addysgu, lles, datblygiad plant, anghenion dysgu ychwanegol, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol ac addysg ddigidol.
Bydd eich astudiaethau Cymraeg iaith gyntaf yn eich galluogi i archwilio safbwyntiau gwahanol ar yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a’i diwylliant, gan roi cyfleoedd i chi drafod cyd-destun rhyngwladol yr iaith Gymraeg, wrth archwilio cysylltiadau byd-eang ac amlddiwylliannaeth yng Nghymru.
Fel myfyriwr Addysg a’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, bydd gennych chi sylfaen gadarn mewn damcaniaethau a chysyniadau cyfoes sy'n cael eu llywio gan sylfaen ymchwil gref. Byddwch chi'n graddio â’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i feddwl yn feirniadol am addysg a byddwch chi'n gallu cymhwyso eich gwybodaeth mewn lleoliadau byd go iawn, mewn cyd-destunau addysgol ac ar draws y byd yn ehangach. Mae'r rhaglen hon yn mynd y tu hwnt i astudiaethau traddodiadol; yn eich gwahodd i archwilio beth yw ystyr siarad ac ysgrifennu’r Gymraeg a byw drwy gyfrwng yr iaith yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae'r rhaglen hon ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf – os ydych yn siaradwr Cymraeg ail iaith, mae gennym lwybr ar gyfer myfyrwyr ail iaith, sy'n cynnwys cyfleoedd i wella eich sgiliau iaith Gymraeg.