Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd BA Addysg a’r Gymraeg yn gwrs tair blynedd o hyd, wedi'i lywio gan ymchwil, sy'n cefnogi myfyrwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd drwy gyfrwng y Gymraeg ym myd addysg a'r tu hwnt.
Mae addysg yn faes astudio pwysig sy'n tynnu ar ddisgyblaethau seicoleg, cymdeithaseg, athroniaeth a hanes. Yn eich modiwlau sy'n canolbwyntio ar Addysg, cewch gyflwyniad i amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys polisi addysg, dysgu ac addysgu, lles, anghenion dysgu ychwanegol, tegwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac athroniaeth a damcaniaethau addysg.
Bydd eich astudiaethau Cymraeg ail iaith yn eich galluogi i archwilio safbwyntiau gwahanol ar yr iaith Gymraeg a'i llenyddiaeth a'i diwylliant, gan roi i chi gyfleoedd i drafod cyd-destun rhyngwladol yr iaith Gymraeg, wrth archwilio cysylltiadau byd-eang ac amlddiwylliannaeth yng Nghymru. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i wella eich sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys eich gramadeg a'ch geirfa, a gallwch archwilio'r meysydd amrywiol lle defnyddir yr iaith Gymraeg, gan gynnwys cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu digidol.
Byddwch yn datblygu sylfaen gadarn mewn damcaniaethau a chysyniadau cyfoes sy'n cael eu llywio gan sylfaen ymchwil gref. Erbyn i chi raddio, bydd gennych y sgiliau sydd eu hangen arnoch i feddwl yn feirniadol am addysg a rhoi eich gwybodaeth ar waith mewn amgylcheddau byd go iawn, mewn cyd-destunau addysg ac yn y byd ehangach. Mae'r rhaglen hon yn mynd y tu hwnt i astudio traddodiadol; mae'n eich gwahodd i archwilio sut brofiad yw siarad ac ysgrifennu Cymraeg a byw thrwy gyfrwng yr iaith yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio ar gyfer siaradwyr Cymraeg ail iaith, ac mae'n cynnwys cyfleoedd i wella eich sgiliau iaith Gymraeg - os ydych yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, mae gennym lwybr ar gyfer myfyrwyr iaith gyntaf hefyd.