Trosolwg o'r Cwrs
Mae Hanes yr Henfyd yn ystyried ac yn archwilio gwareiddiadau Groegaidd a Rhufeinig a all ymddangos yn hen iawn ond sy'n dal i gael dylanwad hyd yn oed heddiw. Mae'r cwrs gradd BA pedair blynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous drwy eich helpu i ddatblygu sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi llawer o werth arnynt.
Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, gan archwilio'r dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.
Cewch gyfle i archwilio hanes a chymdeithas Groeg a Rhufeinig, pensaernïaeth ac archaeoleg, rhyfeloedd ac ymerodraeth, rhyw, crefydd, gwleidyddiaeth ac economeg, a gallwch ddysgu iaith Groeg neu Ladin.