Ffiseg Ddamcaniaethol, MPhys (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Horsehead nebula

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Ffiseg Ddamcaniaethol yn mynd i'r afael ag ystyr popeth drwy ddefnyddio iaith mathemateg i ddeall y bydysawd. O wybodaeth gwantwm a damcaniaethau unedig mawreddog ffiseg gronynnau, i fater tywyll a chosmoleg, gall y pwnc hwn fynd â chi i unrhyw le.

Mae ein gradd MPhys Ffiseg Ddamcaniaethol pedair blynedd yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd yn dymuno dod yn ffisegwyr proffesiynol. Byddwch yn dysgu sut mae technegau ffiseg a mathemateg sylfaenol yn cael eu defnyddio er mwyn deall datblygiadau mewn gwybodaeth gwantwm, dysgu peirianyddol, cosmoleg, lled-ddargludyddion, laserau, a ffiseg niwclear a gronynnol.

Byddwch yn archwilio'r cwestiynau mawr, fel sut dechreuodd y bydysawd, beth mae gofod ac amser wedi'u gwneud ohono, ac a yw'n bosibl ail-greu mewn labordy yr amodau a oedd yn bodoli eiliadau ar ôl y glec fawr?

Byddwch yn gweithio ar brosiect uwch MPhys sy'n flwyddyn o hyd ac yn dysgu sut i gynnal ymchwil sydd ar flaen y gad yn y meysydd hyn, dan oruchwyliaeth ffisegwyr damcaniaethol a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Pam Ffiseg Ddamcaniaethol yn Abertawe?

  • 11eg yn y DU (Guardian University Guide 2025) 

  • 3ydd yn y DU am Foddhad â’r Addysgu (Guardian University Guide 2025)

  • Un o’r 201-250 o Raglenni Gorau yn y Byd (QS World University Rankings 2025)

Mae Ffiseg ym Mhrifysgol Abertawe yn radd uchel ei pharch sy'n denu myfyrwyr o bedwar ban byd.

Bydd eich dysgu'n cael ei lywio gan y grŵp ffiseg ddamcaniaethol mawr (PPCT) sy'n cynnwys academyddion ysbrydoledig fel yr Athrawon Carlos Nunez a Tim Hollowood, sy'n enwog yn rhyngwladol am eu cyfraniadau ymchwil i ddamcaniaeth linynnol, damcaniaeth maes cwantwm a ffiseg tyllau duon.

Mae'r grŵp Damcaniaeth Cosmoleg a Ffiseg Gronynnau yn Abertawe yn un o'r grwpiau mwyaf yn y DU, gyda 12 aelod o staff academaidd yn cymryd rhan mewn ymchwil i amrywiaeth eang o bynciau mewn Ffiseg Ddamcaniaethol.

Eich Profiad Ffiseg Ddamcaniaethol

  • Mae llwybr gradd hyblyg strwythuredig yn golygu eich bod yn cael cyfle i astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn, naill ai'n lleol, yn genedlaethol neu dramor.
  • Mae ein gofod cyffredin i fyfyrwyr a staff (y Gorwel Digwyddiadau) gyda golygfeydd trawiadol o Fae Abertawe, yn lleoliad delfrydol ar gyfer astudio'n dawel, cynnal trafodaethau a chiniawau anffurfiol.
  • Mae'r adran Ffiseg a Chymdeithas Ffiseg Prifysgol Abertawe yn noddi digwyddiadau cymdeithasol ac academaidd yn rheolaidd, fel colloquia adrannol a darlithoedd o fri i ddod â myfyrwyr a staff ynghyd.
  • Mae cynrychiolwyr myfyrwyr etholedig ar gyfer pob blwyddyn ac ar gyfer Cymdeithas Ffiseg Prifysgol Abertawe (PhySoc) yn sicrhau bod llais pob myfyriwr yn cael ei glywed trwy gyfarfodydd rheolaidd â phenaethiaid adran.
  • Mae ein grwpiau mewn Ffiseg Gronynnau a Damcaniaeth Gosmoleg, Deunyddiau Cymhwysol, a'r cydweithrediad gwrth-fater ALPHA gyda chysylltiadau agos â CERN, yn sicrhau bod ein haddysgu’n cael ei lywio gan yr ymchwil ddiweddaraf. Mae gan fyfyrwyr y cyfle i gwblhau interniaeth haf yn CERN ac ymgymryd â phrosiectau yn y flwyddyn olaf gydag unrhyw un o'n prif grwpiau ymchwil.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ffiseg Ddamcaniaethol

Mae ein graddedigion Ffiseg Abertawe wedi rhagori mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd, gan gynnwys rolau fel ffisegwyr ymchwil, gwyddonwyr data, peirianwyr AI a meddalwedd, rhagolygwyr galw, archwilwyr patentau, a dadansoddwyr cyllid meintiol. Mae ein rhwydwaith cyn-fyfyrwyr yn dangos eu bod yn ymwneud â llawer o sectorau, fel ymchwil llywodraeth, awyrofod, amddiffyn, ynni, niwclear, peirianneg, y sector preifat, addysg, ac archwilio'r gofod. Rydym yn ymfalchïo yn y cysylltiadau cryf maen nhw'n eu cynnal gyda'r adran ac rydym yn falch iawn o arddangos eu datblygiadau gyrfa i'n myfyrwyr presennol.

 

5 rheswm dros astudio Ffiseg yn Abertawe

Ewch ar daith o amgylch ein cyfleusterau gyda Saba

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Ffiseg Ddamcaniaethol, MPhys (Anrh)

Ffiseg Ddamcaniaethol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MPhys (Anrh)