Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein gradd BSc mewn Daearyddiaeth Ffisegol yn rhoi dealltwriaeth eang, wedi'i llywio gan ymchwil i chi o systemau ffisegol y ddaear, gan ddod â themâu ynghyd o feysydd daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd a daeareg. Byddwch chi'n archwilio pynciau megis newid yn yr hinsawdd, peryglon naturiol, llygredd, rheoli arfordirol, tanau gwyllt a geoffiseg, gan ddatblygu sylfaen gref yn y wyddoniaeth sy’n sail i newid amgylcheddol.
Trwy gydol eich gradd, byddwch yn meithrin sgiliau hanfodol ysgrifennu, dadansoddi data, ystadegau a meddwl yn feirniadol, ochr yn ochr â hyfforddiant labordy a gwaith maes ymarferol. Mae'r rhaglen yn cynnig yr hyblygrwydd i deilwra eich dewisiadau modiwl i'ch diddordebau, gan eich galluogi i arbenigo mewn maes daearyddiaeth ffisegol ac amgylcheddol sy'n cyd-fynd â'ch cryfderau academaidd a’ch dyheadau gyrfa yn y dyfodol.
Mae'r radd wedi'i dylunio i'ch helpu chi i ddeall a mynd i'r afael â heriau amgylcheddol byd-eang wrth feithrin y sgiliau ymarferol a dadansoddol sydd eu hangen i lwyddo mewn ystod o yrfaoedd sy'n ymwneud â daearyddiaeth.
Darperir yr addysgu gan staff sydd wrthi’n gwneud gwaith ymchwil ac sy'n dod â'u harbenigedd a'u brwdfrydedd i'r ystafell ddosbarth. Bydd eich dysgu’n gymysgedd o ddarlithoedd, sesiynau labordy a TG ymarferol, tiwtorialau a gwaith maes ymarferol. Bydd asesiadau’n adlewyrchu’r sgiliau amrywiol y mae eu hangen mewn gyrfaoedd daearyddol modern, gan gynnwys dadansoddi rhanddeiliaid, cyflwyniadau, podlediadau, adroddiadau labordy, llyfrau gwaith maes a gwaith academaidd mwy traddodiadol.