Daearyddiaeth Ffisegol, BSc (Anrh)

Darganfyddwch y prosesau daearyddol sy'n llunio ein byd

Satellite view of Europe

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd BSc mewn Daearyddiaeth Ffisegol yn rhoi dealltwriaeth eang, wedi'i llywio gan ymchwil i chi o systemau ffisegol y ddaear, gan ddod â themâu ynghyd o feysydd daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd a daeareg. Byddwch chi'n archwilio pynciau megis newid yn yr hinsawdd, peryglon naturiol, llygredd, rheoli arfordirol, tanau gwyllt a geoffiseg, gan ddatblygu sylfaen gref yn y wyddoniaeth sy’n sail i newid amgylcheddol.

Trwy gydol eich gradd, byddwch yn meithrin  sgiliau hanfodol  ysgrifennu, dadansoddi data, ystadegau a meddwl yn feirniadol, ochr yn ochr â hyfforddiant labordy a gwaith maes ymarferol. Mae'r rhaglen yn cynnig yr hyblygrwydd i deilwra eich dewisiadau modiwl i'ch diddordebau, gan eich galluogi i arbenigo mewn maes daearyddiaeth ffisegol ac amgylcheddol sy'n cyd-fynd â'ch cryfderau academaidd a’ch dyheadau gyrfa yn y dyfodol.

Mae'r radd wedi'i dylunio i'ch helpu chi i ddeall a mynd i'r afael â heriau amgylcheddol byd-eang wrth feithrin y sgiliau ymarferol a dadansoddol sydd eu hangen i lwyddo mewn ystod o yrfaoedd sy'n ymwneud â daearyddiaeth.

Darperir yr addysgu gan staff sydd wrthi’n gwneud gwaith ymchwil ac sy'n dod â'u harbenigedd a'u brwdfrydedd i'r ystafell ddosbarth. Bydd eich dysgu’n gymysgedd o ddarlithoedd, sesiynau labordy a TG ymarferol, tiwtorialau a gwaith maes ymarferol. Bydd asesiadau’n adlewyrchu’r sgiliau amrywiol y mae eu hangen mewn gyrfaoedd daearyddol modern, gan gynnwys dadansoddi rhanddeiliaid, cyflwyniadau, podlediadau, adroddiadau labordy, llyfrau gwaith maes a gwaith academaidd mwy traddodiadol.

Pam Daearyddiaeth Ffisegol yn Abertawe?

Mae Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Abertawe wedi'u rhestru yn y safleoedd canlynol ar hyn o bryd:

  • Ymysg yr 20 pwnc gorau yn y DU (Guardian University Guide 2026)
  • Yn y 4ydd safle yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Ymysg yr 20 adran orau yn y DU am Ragolygon Graddedigion (Complete University Guide 2026)
  • Ymysg y 201-250 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)

Yn Abertawe, byddwch yn astudio Daearyddiaeth Ffisegol yn un o amgylcheddau naturiol a threfol mwyaf amrywiol y DU, gyda chwricwlwm wedi'i gynllunio i sicrhau bod gwaith maes yn ganolog i'ch dysgu. Byddwch chi'n dilyn llwybr gradd hyblyg y gallwch chi ei deilwra i'ch diddordebau trwy ddewis o gymysgedd eang o fodiwlau daearyddiaeth ddynol a ffisegol.

Mae gwaith maes yn rhan fawr o'ch profiad. Mae ein lleoliad yn rhoi mynediad i chi i amgylcheddau lleol a rhanbarthol eithriadol, o Dirwedd Genedlaethol Gŵyr a nodweddion arfordirol a daearegol Bannau Brycheiniog a Sir Benfro. Mae'r dosbarthiadau maes rheolaidd, rhad hyn yn caniatáu ichi gymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu mewn lleoliadau yn y byd go iawn o ddechrau eich gradd.

Byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn cyrsiau maes preswyl yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn, gan archwilio themâu daearyddol mewn amrywiaeth o leoliadau rhyngwladol. Gan ddibynnu ar eich diddordebau, efallai y byddwch yn ymchwilio i beryglon daearegol a naturiol yng Ngwlad yr Iâ neu Vancouver, yn astudio'r argyfwng hinsawdd a chodiad lefel y môr yn Ynysoedd Sili, yn archwilio daearyddiaeth drefol, hanesyddol a brodorol yn Vancouver, neu'n archwilio atgofion a hunaniaeth yn Berlin. Gall myfyrwyr sydd â diddordeb ym mhrosesau’r Ddaear hefyd ymuno â'n taith maes Fwlcanoleg arbenigol i ranbarth Eifel yn yr Almaen.

Gyda'i gilydd, mae'r profiadau hyn yn eich helpu i feithrin sgiliau ymarferol, hyder a dealltwriaeth ddyfnach o'r byd, gan eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol a rhoi cyfleoedd bythgofiadwy i chi ddysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Eich Profiad Daearyddiaeth Ffisegol

Drwy gydol y radd BSc Daearyddiaeth Ffisegol, byddwch yn meithrin gwybodaeth arbenigol wrth ddatblygu'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddeall ac ymdrin â heriau byd-eang heddiw. Gallwch archwilio themâu fel monitro newid amgylcheddol, hinsoddau'r gorffennol, prosesau arfordirol, rheoli tir cynaliadwy, daearyddiaeth ddiwylliannol a gwleidyddol, twristiaeth a threftadaeth, dinasoedd y byd, a mudo. Mae eich dewis o fodiwlau a phrosiect blwyddyn olaf yn caniatáu i chi deilwra'ch dysgu i'ch diddordebau a'ch cynlluniau gyrfa yn y dyfodol.

Mae Daearyddiaeth Ffisegol yn Abertawe’n seiliedig ar ddull rhyngddisgyblaethol. Byddwch yn astudio'r blaned o'r is-wyneb i'r atmosffer, gan archwilio amgylcheddau o goedwigoedd glaw ac anialwch i ficrobau pridd, rhewlifoedd a thirweddau trefol. Mae'r ehangder hwn yn cysylltu'n uniongyrchol â materion cyfoes ac agendâu cynaliadwyedd byd-eang, gan gynnwys Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn ennill sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. Mae modiwlau'n datblygu arbenigedd mewn meysydd fel Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, dadansoddi data amgylcheddol, cymwysiadau ynni gwyrdd, cyfathrebu, gwaith tîm a rheoli prosiectau.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Os nad yw ymgeiswyr yn bodloni'r gofynion i ymuno â'n rhaglenni gradd tair blynedd, yna cynigir ein BSc Daearyddiaeth pedair blynedd gyda Blwyddyn Sylfaen. Mae ein rhaglen sylfaen yn rhoi cyfle i chi ddatblygu'r sgiliau sy'n hanfodol i gwblhau eich gradd. Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i unrhyw raglenni Daearyddiaeth, gan gynnwys BSc Daearyddiaeth Ffisegol.

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae entrepreneuriaeth a chyflogadwyedd wedi'u gwreiddio drwy gydol eich gradd. Mae ymweliadau maes â sefydliadau partner, gan gynnwys Theatr y Grand, Oriel Gelf Glynn Vivian, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morganwg, Canolfan Gwlyptir Llanelli WWT a'r Gymuned Carbon, yn rhoi cyfle i chi weld sut mae gwybodaeth ddaearyddol yn cael ei chymhwyso ar draws gwahanol sectorau ac i ymgysylltu'n uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch hefyd yn cael gwahoddiad i ymuno â seminarau ymchwil adrannol, gan eich helpu i archwilio dadleuon cyfredol yn y ddisgyblaeth ac ystyried llwybrau yn y dyfodol fel astudiaeth ôl-raddedig.

Mae'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn cynnal ffair gyflogwyr flynyddol sy'n cynnwys sefydliadau sy'n berthnasol i raddedigion Daearyddiaeth Ffisegol, gan roi cyfleoedd i chi rwydweithio, dysgu am lwybrau gyrfa, a darganfod lleoliadau a rolau graddedigion.

Mae graddedigion Daearyddiaeth Ffisegol yn gweithio mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Y Sector amgylcheddol: asiantaethau amgylcheddol, cyrff anllywodraethol, cwmnïau sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, ac ymgynghoriaeth amgylcheddol.
  • Addysg a chyfathrebu: rolau addysgu, cyfathrebu gwyddoniaeth, ac allgymorth.
  • Llywodraeth a'r sector cyhoeddus: cynllunio, datblygu polisi, dadansoddi data, a rolau mewn awdurdod lleol.
  • Busnes ac ymgynghoriaeth: ymchwil, dadansoddi data, rheoli prosiectau a gwaith geo-ofodol.
  • Ymchwil a dadansoddi: rolau mewn melinau trafod, prifysgolion, cwmnïau ymchwil preifat a sefydliadau sy'n canolbwyntio ar ddata.

Mae eich gradd yn eich arfogi â'r sgiliau dadansoddol, technegol a chyfathrebu y mae cyflogwyr ar draws y sectorau hyn yn eu gwerthfawrogi.

Daearyddiaeth Ffisegol, BSc (Anrh)

Daearyddiaeth Ffisegol gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Daearyddiaeth Ffisegol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)