Eich Profiad Peirianneg Fecanyddol
Mae addysgu ar y rhaglen hon yn seiliedig ar egwyddorion craidd y gwyddorau peirianneg (mecaneg, thermohylifeg, ystadegau a dynameg, gweithgynhyrchu a dylunio) a chaiff ei gyfoethogi gan gryfderau ymchwil yr adran a'r gyfadran ehangach.
Mae'r dysgu hefyd yn flaengar ac yn canolbwyntio ar ymarfer. Byddwch yn datblygu gwybodaeth sylfaenol yn y camau cynnar, cyn cymhwyso'r wybodaeth honno a'i hymestyn drwy waith labordy, prototeipio, a gweithgareddau efelychu a dylunio mewn timau.
Mae'r cwricwlwm yn eich annog i archwilio technolegau sy'n dod i'r amlwg a heriau peirianneg byd-eang, gan gynnwys gweithgynhyrchu digidol, roboteg, systemau ynni cynaliadwy, ymagweddau economi gylchol, a dylunio sy'n cael ei lywio gan ddata. Mae hyn yn meithrin arloesi a meddwl entrepreneuraidd, gan eich galluogi i nodi cyfleoedd ar gyfer cynhyrchion newydd, prosesau peirianneg gwell neu atebion wedi'u sbarduno gan dechnoleg i anghenion diwydiannol a chymdeithasol.
Cyflwynir dysgu cyfrifiadol drwy ddylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD), gweithdai efelychu a rhaglennu gan ddefnyddio offer Autodesk, MATLAB, Python, ac ANSYS ar gyfer dadansoddi elfennau cyfyngedig a dynameg hylifau gyfrifiadol. Mae'r sesiynau hyn yn efelychu llifoedd gwaith peirianneg proffesiynol ac yn eich helpu i feithrin galluoedd ar draws modelu, dadansoddi data a dylunio digidol.
Er bod rhai modiwlau'n defnyddio arholiadau traddodiadol pan fo hynny'n hanfodol, mae'r rhaglen hon yn sicrhau eich bod chi hefyd yn elwa o amrywiaeth ehangach o ddulliau asesu sy'n adlewyrchu ymarfer go iawn ym maes peirianneg. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyniadau unigol ac mewn grwpiau, adolygiadau dylunio, tasgau dylunio â chymorth cyfrifiadur (CAD)/dadansoddi elfennau cyfyngedig (FEA), gwaith labordy ac asesiadau sylweddol sy'n seiliedig ar brosiectau.
Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan gyfoethogi'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd.
Mae'r MEng yn radd integredig pedair blynedd o hyd. Mae'n mynd y tu hwnt i'r BEng, gan gynnig sgiliau technegol ac arweinyddiaeth uwch, lefel ddyfnach o arbenigo a llwybr uniongyrchol i achrediad proffesiynol.
Caiff ein graddau eu haddysgu gan arbenigwyr sydd â gwybodaeth helaeth i'w rhannu â'n myfyrwyr.
Gallwch ddarllen mwy am ein harbenigedd academaidd ar ein tudalennau staff.