Hyfforddiant Cyhyrol Llawr y Pelfis

Exercise equipment

Cefnogaeth seicolegol i wella cydymffurfiaeth â thriniaeth a chanlyniadau ar gyfer diffyg llawr y pelfis benywaidd

Mae diffyg llawr y pelfis benywaidd yn effeithio ar fyny hyd at 25% o holl ferched y DU, a gall effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd merch. Gellir ei drin yn effeithiol gan ffisiotherapi hyfforddiant cyhyrol llawr y pelfis (PFMT), ond canfuwyd bod rhai menywod yn ei chael hi'n anodd cwblhau cwrs o PFMT. Mewn ymchwil a gynhaliwyd gennym ni ein hunain, ym Mhrifysgol Abertawe ac Ysbyty Singleton, Abertawe, darganfuwyd ystod o ffactorau seicolegol sy’n effeithio ar bresenoldeb mewn sesiynau PFMT, a hefyd ei ganlyniadau, yn ogystal â ffyrdd y gellir cefnogi menywod sydd â'r nodweddion seicolegol hyn trwy eu PFPT.

Mae nifer o fenywod â diffyg llawr y pelfis yn dangos arwyddion iselder a phryder, ynghyd â llai o gymhelliant i ymgysylltu â therapi a newid eu hymddygiad. Mae'r holl ffactorau hyn yn lleihau eu presenoldeb mewn sesiynau ffisiotherapi. Yn ogystal, nid yw rhai merched yn rhoi'r un gwerth ar eu hanghenion iechyd eu hunain, ag y maent ar ffactorau allanol megis iechyd aelodau eu teulu), ac felly nid ydynt yn mynychu eu hapwyntiadau ffisiotherapi.

Yn seiliedig ar yr ymchwil hon, rydym wedi datblygu teclyn sgrinio sy'n darogan presenoldeb cleifion, ac rydym hefyd wedi datblygu rhaglenni cymorth seicolegol sy'n lleihau cyfraddau 'na fynychodd' (DNA) yn sylweddol, yn hyrwyddo cydymffurfiaeth a chyd-gynhyrchu, yn gwella canlyniadau, ac yn cynhyrchu arbedion GIG - drwy atal yr angen am weithrediadau drud a diangen.

Dangosodd treial rheoledig ar hap (RCT), yn ymwneud â galwad teleffon byr (5-10 munud) yn rhoi cefnogaeth seicolegol i gleifion ar y rhestr aros, gyfraddau DNA a ostyngwyd yn sylweddol ar gyfer sesiynau PFMT. Dangosodd RCT o ymyrraeth ysgogol a gwerthoedd iechyd byr i gleifion sy'n cael PFMT bresenoldeb triniaeth sylweddol uwch a glyniad wrth PFMT. Gyda'i gilydd, gwnaeth yr ymyriadau hyn wella canlyniadau clinigol 50%.

Darganfyddiadau Allweddol

  • Mae rhagfynegyddion allweddol o ddiffyg presenoldeb yn cynnwys: oedran y claf, nodweddion cymdeithasol-ddemograffig, lefelau o iselder, pryder, ysgogiad a gwerthoedd iechyd.
  • Mae ymyrraeth cymorth dros y teleffon, tra ar y rhestr aros, yn hybu presenoldeb cychwynnol mewn sesiynau PFMT.
  • Mae sesiynau cymorth seicolegol byr mewn grŵp yn rhoi hwb i gwblhau PFMT, ac yn gwella canlyniadau clinigol.
  • Amcangyfrifir bod yr arbedion i'r GIG, yn nhermau atal llawdriniaethau diangen, oddeutu £1,000 y claf a atgyfeirir.
  • Datblygwyd offeryn sgrinio i ragweld pa ferched fydd yn elwa fwyaf o gefnogaeth PFMT a chefnogaeth seicolegol.

Cyhoeddiadau

Textbooks

Bywgraffiadau’r Tîm

wooden pegs

Adnoddau

People sitting on colourful chairs

Newyddion

Man reading newspaper