Ymchwilydd PhD

Fy nheitl PhD yw Pa botensial sydd gan rith gynorthwywyr i wella llesiant yn yr hen ddemograffig hynaf?

Fy Nghefndir

Mae fy swyddi wedi cynnwys bod yn ddarlithydd ymweld yn Bedfordshire University, darlithydd ar gyfer University Centre in City of Bristol, College, ac yn Arbenigwr ar Fater Pwnc ar gyfer y Virtual College, awdur addysg ar gyfer cyrff gwobrwyo cenedlaethol, Arbenigwr drwy Brofiad ar gyfer y Comisiwn Ansawdd Gofal gyda ffocws ar wasanaethau ar gyfer oedolion hŷn ac yn hyrwyddwr ar sail mater.

Dechreuais weithio yn y sector gofal cymdeithasol yn 2003 fel Cynorthwyydd Cegin mewn cartref gofal. Dros yr 16 mlynedd ganlynol, datblygais yrfa mewn gofal cymdeithasol i oedolion, gan weithio mewn ystod amrywiol o osodiadau mewn swyddi rheng flaen a Rheolaeth Uwch.

Ers 2014, rwyf wedi gweithio fel ymgynghorydd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynorthwyo gwasanaethau diffyg-cydymffurfio ar gyfer oedolion hŷn i ennill safonau rheoli a datblygu ymarfer arloesol. Y minnau yw’r Llysgennad ar gyfer yr Ymgyrch i Ddiweddu Unigrwydd a Hyrwyddo Dementia.

Graddiais o’r Brifysgol Agored gyda BA Iechyd Agored a Gofal Cymdeithasol yn 2016 ac yn 2018 graddiais o Brifysgol Abertawe gyda MSc Gerentoleg a Heneiddio gyda Distinction.

Rwy’n angerddol am wneud technoleg yn hygyrch i oedolion hŷn ac yn llwyddiannus wedi cefnogi oedolion hŷn i ddefnyddio technoleg i wella eu hannibyniaeth a’u llesiant.

Fy Ymchwil

Mae gan dechnoleg y potensial i hyrwyddo llesiant oedolion hŷn, lleihau teimladau o unigrwydd a chefnogi llesiant seicolegol. Er hynny, mae’r rhyngweithio rhwng oedolion hŷn a thechnoleg yn ardal nad ydyw’n cael ei hymchwilio’n fawr, gan ddarparu cyfle / backdrop ar gyfer fy ymchwil PhD i ddechrau yn 2019.

Gan fabwysiadu cynllun ymchwil dulliau cymysg, ceisia fy ymchwil daflu golau ar effaith y cynorthwywyr rhithwir e.e. Amazon Alexa ar lesiant pobl hŷn sy’n byw mewn sawl gosodiad gofal wedi eu lleoli o fewn ENRICH CYMRU.

Caiff oedolion hŷn ac ymarferwyr y cyfle i ddefnyddio a darparu barnau ar gynorthwywyr rhithwir. Bydd eu mewnbwn yn llunio datblygiad cronfa ddigidol ar y cyd a chymhwysiad neu fanyleb sgil ar gyfer cynorthwywyr rhithwir a ofynnir gan oedolion hŷn.

Wedi eu gwehyddu mewn i’r ymchwil a gaiff ei archwilio, fydd yr heriau y caiff oedolion hŷn wrth ryngweithio a chynorthwywr rhithwir. I adnabod y rhan y mae ymarferwyr swyddogaeth yn chwarae wrth gynorthwyo oedolion hŷn i gael mynediad at gynorthwywyr rhithwir, caiff ymarferwyr eu hintegreiddio mewn i’r broses o gasglu data.

Goruchwylwyr

Dr Deborah Morgan, Dr Charles Musselwhite 

Cyswllt

924355@swansea.ac.uk

Llun o Laura Sheerman