Ymchwilydd PhD

Fy nheitl PhD yw Gwerthuso effaith gweithgareddau sy'n pontio'r cenedlaethau ar ddulliau gofal sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd a deilliannau gofal mewn cartrefi gofal

Fy nghefndir

Yn 2016, fe wnes i gwblhau fy ngradd israddedig mewn Seicoleg (BSc) ym Mhrifysgol Lerpwl gyda thraethawd hir yn archwilio gweithrediad gweithredol a rheolaeth ataliol. Yma hefyd cefais brofiad fel cynorthwyydd ymchwil arbrofol yn edrych ar hunanladdiad a hunan-niweidio. Dilynais fy niddordeb mewn seicoleg ac ymchwil trwy astudio gradd meistr mewn Seicoleg Annormal a Chlinigol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2016/17, gweithiais ran amser yn y Ganolfan am Heneiddio Arloesol. Ochr yn ochr â fy astudiaethau, cefais nifer o rolau gwirfoddol fel Cydymaith Cymunedol ac ymwelydd Gwneud-dymuniad.

Fy ymchwil

Fy mhrofiadau i fel gwirfoddolwr sy'n gweithio gyda'r hen a'r ifanc, ynghyd â fy niddordeb a'm profiad uniongyrchol o'r ymchwil arloesol y tu ôl i astudiaethau gerontoleg a heneiddio, a wnaeth fy nenu i gychwyn ar PhD yn 2018. Bwriad y PhD yw gwerthuso effaith Gweithgareddau rhwng cenedlaethau ar gyfer Gofal sy'n Canolbwyntio ar Berthynas a chanlyniadau gofal mewn Cartrefi Gofal Preswyl. Bwriad y prosiect hefyd yw datgysylltu effeithiau gweithgareddau strwythuredig ar breswylwyr mewn cartrefi gofal, o'r manteision (ân) ychwanegol a gronnwyd o gyflawni'r gweithgareddau hyn fel rhan o gyfnewidfeydd rhwng cenedlaethau. Gallai hyn gyfrannu at ddarparu gofal cymdeithasol cynaliadwy, newid agweddau tuag at heneiddio ac effeithio ar lesiant preswylwyr, teulu a staff gofal.

Goruchwylwyr

Professor Vanessa Burholt, Dr Christine Dobbs

Cyswllt

922602@swansea.ac.uk 

 

Llun o Kate Howson