Ymchwilydd PhD

Fy nheitl PhD yw Cymunedau sy'n ystyrlon o oedran ar gyfer pobl ag anawsterau symudedd

Fy nghefndir

Gan astudio’n rhan-amser gyda’r Brifysgol Agored, derbyniais radd mewn Seicoleg a Throseddeg ac wedi hynny MSc mewn Dulliau Ymchwil Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2016 gyda thraethawd prosiect yn archwilio pa un ai a ydy’r defnydd o gadair olwyn yn gallu cyfrannu at unigedd cymdeithasol.

Fy ymchwil

Bellach yn y Ganolfan am Heneiddio Arloesol mae fy niddordebau ymchwil yn parhau i ffocysu o amgylch Amgylcheddau Heneiddio. Mae’r PhD yr wyf yn ei arwain yn archwilio ar sut yr ydym yn addasu’r defnydd o gymhorthion symudedd a gafaelwyd drwy heneiddio neu anghenion salwch cronig. Ymdrinnir â hyn drwy ddeall sut mae pobl, cymdeithas a’r amgylchedd yn amgylchynu’r newidiadau yma neu a ydyw pobl yn cael ei heithrio oherwydd nad ydynt yn cwrdd â’r disgwyliad rhagnodedig o ‘gorff cyffredin’ neu symudiad cyffredin.

Archwilia’r arolwg y defnydd o gymhorthion symudedd megis ffyn a chadeiriau olwyn, a hefyd cymhorthau fel ffyn gwyn ar gyfer y rheiny â nam ar y golwg. Yn ychwanegol at yr amodau anablu sy'n gofyn am eu defnyddio, dangoswyd bod cymhorthion symudedd yn effeithio ar berthnasoedd, trefnau ac arferion beunyddiol sydd weithiau’n arwain at ynysu cymdeithasol. Trwy ddefnyddio methodoleg ethnograffig, mae arferion beunyddiol defnyddwyr cymorth symudedd yn cael eu hymchwilio i ddeall pa mor dda y mae lleoedd cyhoeddus a mannau siopau, practisau meddygon teulu, meddygfeydd deintyddol, adeiladau cyhoeddus a marchnadoedd yn cymhwyso defnyddwyr cymorth symudedd. Mae hefyd yn ymgorffori systemau fel trafnidiaeth gyhoeddus a chludiant personol. Galwaf bobl yn ddefnyddwyr cymorth symudedd oherwydd at ddibenion yr astudiaeth hon, y defnydd o'r cymorth symudedd sy'n cael ei ymchwilio, er yn amlwg ni ellir gwahanu hyn yn llwyr oddi wrth unrhyw anabledd neu salwch.

Goruchwylwyr

Dr Charles Musselwhite, Dr Ashley Frawley, Dr Gideon Calder

Llwyddiannau Academaidd Eraill

Cyflwynais fy ymchwil mewn nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud â’r cyhoedd, gan gynnwys seminarau, gweithdai & chynadleddau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cynhadledd Rhwydwaith Seibir: Ymchwil, Ymrwymiad & Effaith: Prifysgol Abertawe (Medi 2017)
    Archwiliwyd y fflwcs cyson a chymhlethdod byd gorsymudedd yn y cyflwyniad hwn, ynghyd â’r ffyrdd y gall pobl hŷn cael eu cynnwys neu eu heithrio o rwydweithiau seibir.
  • Seminar Ymchwil CADR - Amgylcheddau Heneiddio: Prifysgol Abertawe (Medi 2017)
    Cyflwyniad wnaeth ffocysu ar gynllun fy astudiaeth mewn ceisio deall rôl cymhorthion symudedd, yn hytrach na chyflyrau heneiddio neu anablu, mewn newidiadau ffordd o fyw neu newidiadau i berthnasau. Fe wnaeth y cyflwyniad hefyd archwilio’r ffyrdd gwahanol y gall pobl hŷn efallai gysylltu gyda’r defnydd o gymhorthion symudedd.
  • Universities’ Transport Study Group Annual Conference UCL (University College London) (Ionawr 2018)
    Mae'r drafodaeth gyflwyniad hon yn cyfuno'r patrwm symudedd â dull gerontoleg feirniadol i greu dull newydd ond effeithiol o fynd i'r afael ag anghenion trafnidiaeth a theithio ac ymddygiad pobl hŷn. Fel grŵp arbennig o ymylol o ran trafnidiaeth, archwiliwyd gwaharddiad trafnidiaeth pobl hŷn sy'n defnyddio cymhorthion symudedd trwy'r lens gerontoleg a symudedd beirniadol.
  • Seminar Polisi Cymdeithasol ac Ymarfer - Prifysgol Abertawe (Mawrth 2019)
    Yn dwyn y teitl ‘Towards a Critical Geromobilities approach for Studying the mobility of an Ageing Population’ roedd y cyflwyniad a’r drafodaeth hon yn barhad o gyfuno gerontoleg feirniadol a’r patrwm symudedd. Amlinellodd y sesiwn pam y gellir gwella deall yr arferion a'r anghenion o safbwynt ymarferol beunyddiol gyda dealltwriaeth o batrwm a ddyluniwyd i archwilio anghenion y grŵp cymdeithasol hwn y gwyddys eu bod yn colli cysylltiadau cymdeithasol trwy lai o opsiynau teithio.
  • British Society of Gerontology Conference: University of Manchester (Gorffennaf 2019)
    Cyflwyno canfyddiadau o fy ymchwil PhD ynghylch anghenion teithio a chymdeithasol pobl hŷn sy'n defnyddio cymhorthion symudedd, sy'n faes cymharol heb ei archwilio er y gall cylchoedd cymdeithasol ddirywio gyda'r defnydd o gymorth symudedd. Trafodwyd dyfyniadau o 12 defnyddiwr cymorth symudedd a 6 gofalwr.

Darlithio

Rwyf hefyd wedi ymgymryd â pheth dyletswyddau darlithio drwy gydol fy astudiaeth PhD. Rwyf wedi rhoi darlith ar fy ymchwil fy hun i fyfyrwyr Heneiddio a Gerentoleg, gan roi mewnwelediad iddynt i’r broses o gynllunio a gwneud prosiect ymchwil PhD. Rwyf hefyd wedi darlithio ar ddau fodiwl israddedig: Oedraniaeth a Heneiddio Poblogaeth Gymharol (Polisi Cymdeithasol) ac Anabledd, Polisi a Chymdeithas (Cymdeithaseg) ac ar y modiwl MSc Pobl Hŷn, Dinasyddiaeth a Chyfranogiad.

Gwobrau

  • Ail Orau yng Nghystadleuaeth Fel Celf Ymchwil Prifysgol Abertawe 2018
  • Ail Orau yn Gyfan Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe fel Celf 2018

Cyswllt

843126@swansea.ac.uk 

 

Llun o Allyson Rogers