Ymchwilydd M.Phil

Fy nheitl M.Phil yw Pwysigrwydd pobl hŷn fel cyfranogwyr ymchwil mewn treialon clinigol. Dadansoddiad beirniadol o agweddau rhanddeiliaid: pobl hŷn; ymarferwyr ymchwil a’r diwydiant fferyllol.

Fy Nghefndir

Rwyf wedi bod yn nyrs gofrestredig ers dros 12 mlynedd a hanner, gan gymhwyso gyda Diploma Nyrsio. Yna astudiais am BSc mewn Ymarfer Nyrsio. Ar hyn o bryd rwy'n Nyrs Ymchwil, ar ôl treulio 10 mlynedd a hanner yn gweithio ym maes Neffroleg yn flaenorol. Cwblheais y cwrs MSc Gerontoleg a Heneiddio yn 2018, a’m traethawd hir oedd: ‘Trafod diwedd oes: astudiaeth ansoddol yn archwilio’r rhwystrau, yr hwyluswyr, y manteision a’r anfanteision o drafod materion diwedd oes.

Fy Ymchwil

Fe wnaeth fy mhrofiad yn Neffroleg ysgogi fy niddordeb mewn heneiddio. Mae fy rôl bresennol fel nyrs ymchwil wedi gwneud i mi werthfawrogi pobl hŷn fel cyfranogwyr mewn treialon clinigol ond mae hefyd wedi fy arwain i gwestiynu agweddau’r rhai sy’n ymwneud â threialon clinigol tuag at bobl hŷn fel cyfranogwyr. Felly bydd yr MPhil Gerontoleg a Heneiddio hwn yn archwilio pobl hŷn fel cyfranogwyr mewn treialon clinigol.

Goruchwylwyr

Dr Christine Dobbs, Dr Jodie Croxall

Cyswllt

293199@swansea.ac.uk 

Llun o Alex McHale