Ymchwilydd PhD

Fy nheitl PhD yw Seico-ddaearyddiaeth: lle; heneiddio; ac ymlyniad emosiynol

Fy ymchwil

Mae fy ymchwil yn ymwneud â seico-daearyddiaeth: mapio'r atodiadau i le a gofod rydyn ni'n eu datblygu - a cholli - ar ein llwybrau drwy fywyd.

Ystyria’r ymchwil lefydd gwag yn amrywio o ystafell, i’r gymdogaeth a chefn gwlad ehangach. Ystyria’r archwiliad gwestiynau fel: (1) sut mae lle yn gwthio a thynnu ar ddigwyddiadau bywyd sylweddol; (2) sut gall daearyddiaeth fod yn ffordd o storio atgofion ac emosiwn; a (3) sut gall dulliau gwahanol ddefnyddio llefydd gwag i sbarduno atgofion ac emosiwn; gan eu caniatáu i ymddangos o’r isymwybod a’r rhagymwybod.

Mae’r ymchwil empirig yn 2019 wedi ffocysu ar y 1960au a’r 1970au; sut wnaeth y cyfnod yma lywio gwerthoedd a disgwyliadau’r 'baby boomers'; a beth olyga hyn nawr i fod yn berson hŷn. Mae’r mwyafrif o gasglu data wedi dod o gyfweliadau cerdded, ble mae’r cyfranogwr wedi fy arwain drwy amgylchedd sydd wedi bod yn bwysig i’w bywyd. I’r rheiny sydd wedi bod yn fwy anghysbell o ddaearyddiaeth benodol - neu efallai nad ydynt yn medru cerdded y tu allan - rydym wedi cymryd ‘cerddediad o’r meddwl.'

Gan ddefnyddio’r cerdded fel trosiad - a rhoi’r rhyddid i bobl ‘ddrifftio’ drwy atgofion ac emosiynau - mae hyn wedi darparu peth mewnwelediadau mewn i sut cafodd bywydau eu llywio. Yn dilyn dadansoddiad, caiff y cyfweliadau eu crynhoi mewn naratifau ysgrifenedig ar ffurf hirach sy’n cysylltu’n thematig. Rydym hefyd wedi defnyddio cerddediad cyhoeddus fel dull o ledaenu’r gwaith. Er enghraifft, yng Ngŵyl Caerleon yng Ngorffennaf 2019, fe wnaethom weithio gyda’r artist perfformio Marega Palser i ddehongli’r ymchwil mewn i berfformiad cerdded. Rydym yn cynnal digwyddiad arall ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 9fed 2019 ar gyfer Gŵyl ESRC o Wyddorau Cymdeithasol.

Mae’r gwaith wedi ei gyflwyno mewn amryw o gynadleddau, gan gynnwys BSG 2017, BSG 2019, Micra Conference for Early Career Academics 2019 a WISERD 2019. Mae disgwyl i’r ymchwil ddod i ben ar ddiwedd 2020.

Cyswllt

Twitter @aledsingleton; e-bost 878524@swansea.ac.uk

Llun o Aled Singleton