Mae ein hymchwil uchel ei enw yn arwain y ffordd mewn pedwar maes gwahanol

Cyfranogiad, Perthynas Gymdeithasol a Chefnogol

Archwilio sut mae ein cymuned yn ffactor hanfodol yn natblygiad y perthnasau sydd gennym â'r rhai o'n cwmpas, yn ogystal â'r ffactor sy'n gyrru'r ffordd yr ydym yn ffurfio ac yn llunio ein confensiynau diwylliannol, ynghyd â'n gwerthoedd a'n credoau.

Mae gan y Ganolfan Heneiddio Arloesol arbenigedd data ac ymchwil unigryw sy'n ymwneud â pherthnasoedd trawswladol, rhwydweithiau cymdeithasol, perthynas ryng-genhedlaeth ac o fewn cenedlaethau ymfudwyr hŷn yn y DU. Caiff y ganolfan ei hystyried yn arweinydd byd-eang mewn gerontoleg gymdeithasol o fewn y thema hon. Ymhlith y pynciau o dan y thema hon mae: 

  • Rhwydweithiau cymorth cymdeithasol
  • Perthynas drawswladol
  • Cydlyniant / gwrthdaro cymunedol
  • Haint cymdeithasol o fewn cymunedau o ymarfer a lle
  • Llythrennedd iechyd o fewn rhwydweithiau cymorth
  • Newid deinamig rhwydweithiau a theuluoedd
  • Gwahaniaethau rhwng ethnigrwydd / diwylliant mewn strwythurau teulu a rhwydweithiau

Amgylcheddau Heneiddio

Ymchwilio i sut mae pobl hŷn yn rhyngweithio â'u hamgylchedd i frwydro yn erbyn y farn draddodiadol bod ein hamgylchedd yn dylanwadu'n gryf arnom, a symud cymdeithas i fan lle mae pobl hŷn yn ymgysylltu'n weithredol â'u hamgylchedd gan arwain at welliannau mewn ansawdd bywyd, iechyd a llesiant.

Mae'r thema hon yn mynd i'r afael â rhyngweithiadau person-amgylchedd wrth i bobl heneiddio. Yn draddodiadol gwelwyd bod yr unigolyn sy’n heneiddio yn cael ei ddylanwadu’n gryf gan yr amgylchedd yr oeddent yn byw, yn gweithio ac yn rhyngweithio ynddo, dulliau wedi’u crynhoi fel ‘wasg amgylcheddol’ neu ‘adweithedd person-amgylchedd’. Awgryma ymchwil a theori bellach bod pobl hŷn yn ymgysylltu’n fwy gweithredol â’u hamgylchedd â gwreiddiau mewn seicoleg amgylcheddol, ac yn aml cyfeirir ato fel ‘gerontoleg amgylcheddol’ neu ‘ecoleg heneiddio’.

Mae amgylcheddau heneiddio yn amlddisgyblaethol eu natur, gan ddefnyddio safbwyntiau damcaniaethol o seicoleg, cymdeithaseg, pensaernïaeth, daearyddiaeth ddynol, astudiaethau trefol, cynllunio a therapi galwedigaethol. Yn aml mae'n rhyngddisgyblaethol ac edrycha ar y rhyngweithio rhwng peirianneg, technoleg, TG a chymdeithas a thynna ar ryngweithio cymdeithasol-dechnegol, rhyngweithio dynol-cyfrifiadur a theori dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr mewn cyd-destun sy'n heneiddio. Mae’r CIA yn cynnwys ystod eang o destunau o dan y thema hon yn cynnwys:- 

  • Tai ac amgylcheddau byw wedi eu cefnogi
  • Cynhwysiant cymdeithasol a chysylltedd
  • Cludiant, teithio, diogelwch defnyddwyr ar y ffordd
  • Ymddygiadau tuag at dechnoleg, derbynioldeb o dechnoleg, cynhwysiant digido, derbynioldeb o bolisi ac ymyrraeth
  • Heneiddio mewn lle, glynu wrth le, ymfudiad, cyd-destunau gwledig -trefol
  • Dyluniad trefol ac amgylchedd adeiledig
  • Globaleiddio
  • Cwympiadau

Gwaith, ymddeoliad ac oedraniaeth

Gwella canlyniadau’r farchnad lafur i weithwyr hŷn, ategu blaenoriaethau agenda ‘bywydau gwaith llawnach’ llywodraeth y DU ac adeiladu ar yr ymgyrch fyd-eang, dan arweiniad WHO, i frwydro’n erbyn rhagfarn ar sail oed.

Mae’r thema yma’n cysylltu i ymrwymiad Heneiddio’n Dda yng Nghymru i wella canlyniadau’r farchnad lafur ar gyfer gweithwyr hŷn. Cysyllta hyn hefyd gydag agenda llywodraeth y DU ‘fuller working lives’ yn cynnwys:

  • Yr amgylchedd gwaith, yn cynnwys heneiddio’n well mewn gwaith, amrywiaeth oedran yn y gweithle, gweithio ansicr ac economi’r gig
  • Polisïau rheoli oedran ac arferion AD / sefydliadol
  • Canfyddiadau o heneiddio, rhagfarn ar sail oed a gwahaniaethu ar sail oedran
  • Cynllunio ymddeoliad, addasiad o ymddeoliad, gweithio tu hwnt i ymddeoliad ac heb ymddeol
  • Gweithio gydag anabledd / salwch cronig

Swyddogaeth ac ymddygiad yr ymennydd wrth heneiddio, nam gwybyddol a dementia 

Rydym yn ymchwilio i gyfanrwydd ystod eang o swyddogaethau ymennydd ar draws y rhychwant oes ac mewn perthynas â Nam Gwybyddol Fasgwlaidd, Nam Gwybyddol Goddrychol ac Ysgafn, Dementia Fasgwlaidd a chlefyd Alzheimer. 

I wneud hyn, defnyddiwn nifer o wahanol ddulliau a thechnolegau methodolegol gan gynnwys: 

  • profion niwrowybyddol
  • niwroseicoleg
  • niwroddelweddu (MRI)
  • sbectrosgopeg is-goch agos (NIRS)
  • electro-enseffalograffeg (EEG)
  • ysgogiad cerrynt uniongyrchol traws -ranial (tDCS)
  • seicoffiseg cyfrifiadurol
  • technegau ansoddol fel grwpiau ffocws


Mae canlyniad yr ymchwil hon yn ein helpu i ddeall y sylfaen sylfaenol ar gyfer newid mewn rhai ymddygiadau sy'n digwydd wrth heneiddio ac mewn cyflyrau fel nam gwybyddol fasgwlaidd a chlefyd Alzheimer. Yna, defnyddir gwybodaeth o'r fath i wella dealltwriaeth rhywun o brosesau heneiddio ac afiechydon a'u harwyddion a'u symptomau. Hefyd, gellir defnyddio gwybodaeth o'r fath i lywio strategaethau sy'n gysylltiedig â heneiddio'n dda a byw'n dda â dementia a dylunio amgylcheddau gwell.

Mae hwn yn faes ymchwil amrywiol ac amlddisgyblaethol. Mae'r gwaith a wnawn yn cynnwys y canlynol:

  • Gweld, symudiadau llygad a metri canol llygad
  • Diffyg cydweddiad gweledol (canfod newid yn awtomatig / dal sylw)
  • Sylw a gwrthdyniad
  • Clyw
  • Cyflymder prosesu gwybodaeth a pha mor amrywiol yw hyn
  • Niwrowyddoniaeth wybyddol, niwroseicoleg, gofid
  • Gofal iechyd ar sail tystiolaeth
  • Datblygu methodolegau newydd (e.e. defnyddio technoleg symudol ar gyfer ymchwil)
  • Cwympiadau a symudedd a phrosesu symud
  • COVID-19 a'r posibilrwydd o newidiadau gwybyddol cysylltiedig
  • Llwyfan Dementia Platform UK
  • Toiledau Cyfeillgar i Ddementia

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, cysylltwch â'r Athro Andrea Tales.

Yn ychwanegol i ymchwil arweiniol y byd gan y CIA, mae'r ganolfan yn ymgysylltu â datblygiad y rhydweithiau yng Nghymru, y DU yn ehangach ac yn fyd eang. Mae hyn yn caniatáu i effaith yr ymchwil a gynhelir yn y ganolfan fod yn bellgyrhaeddol ac effeithio'n gadarnhaol ar fywydau oedolion hŷn y tu hwnt i gwmpas traddodiadol canolfan ymchwil academaidd.