Yn hanfodol i wella bywydau pobl hŷn

Mae'r Ganolfan Heneiddio Arloesol yn falch o gefnogi ymgyrch Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i herio gwahaniaethu ar sail oedran. Dyma ein addewid. 

"Yn y Ganolfan Heneiddio Arloesol mae pobl hŷn wrth galon ein gwaith. Rydym yn addo helpu i fynd i'r afael ag #EverydayAgeism trwy gynnal ymchwil sy'n chwalu rhwystrau, yn herio anghydraddoldebau, yn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ac yn hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol."

 

Llun o Tim CIA gyda'r addewid

Cafodd y term ‘oedraniaeth’ (‘ageism’) ei fathu gyntaf 50 mlynedd yn ôl i ddisgrifio’r stereoteip, y rhagfarn a’r gwahaniaethu a wynebir gan bobl yn seiliedig ar oedran.

Mae effaith oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran yn bellgyrhaeddol, ac mae wrth wraidd llawer o’r problemau a’r heriau a wynebir gan bobl hŷn sy’n golygu eu bod yn cael eu trin yn annheg ac nad yw eu hawliau’n cael eu parchu. Mae oedraniaeth hefyd yn dylanwadu ar y penderfyniadau a wneir gan gymdeithas, sy’n golygu bod y gwasanaethau, y cymorth a’r cyfleusterau sydd eu hangen ar bobl i heneiddio’n dda yn gallu bod yn annigonol neu ei bod yn anodd cael gafael arnynt.

Er bod yna ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gynyddol o fathau eraill o ragfarn a gwahaniaethu – megis hiliaeth, rhywiaeth a homoffobia – a’r effaith a gânt ar unigolion ac ar gymdeithas, mae oedraniaeth yr un mor annerbyniol ond nid yw’n cael ei gydnabod felly’n aml.

Gwelwyd hynny i raddau’n ddiweddar mewn adroddiad dan y teitl ‘Ageist Britain’,1 a ganfu fod ychydig dros draean o bobl Prydain wedi cyfaddef eu bod wedi gwahaniaethu yn erbyn pobl oherwydd eu hoedran. Roedd yr adroddiad hefyd wedi datgelu bod mwy na dwy-draean o bobl dros 50 oed yn teimlo nad oeddent yn cael eu gwerthfawrogi’n llawn oherwydd yr oedraniaeth feunyddiol a wynebant.

Bob dydd, mae’r cyfryngau a hysbysebion yn atgyfnerthu ein stereoteipiau am bobl hŷn, gyda delweddau a negeseuon yn canolbwyntio’n aml ar salwch, dirywiad ac eiddilwch. Mae mynd yn hŷn yn cael ei gyflwyno’n aml fel rhywbeth i’w ofni ac y dylech geisio ei atal rhag digwydd.

Llun o pêl dymchwel gyda geiriau Mae oedraniaeth wedi'i seilio ar stereotipiau a mythau am bobl hŷn. Gyda'n gylydd gallwn ei chwalu. Gadewch i ni gydweithio i roi diwedd ar #EverydayAgeism

Ond nid dim ond ar y cyfryngau ac mewn hysbysebion mae oedraniaeth yn gyffredin. Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle – sy’n seiliedig ar gamsyniadau bod pobl hŷn yn cynhyrchu llai, yn dioddef iechyd gwaeth a’u bod yn anfodlon addasu i newidiadau – yn aml yn golygu bod pobl hŷn yn wynebu rhwystrau rhag aros mewn gwaith neu ddychwelyd i waith. Gwyddom hefyd fod pobl yn eu 50au ddwywaith yn fwy tebygol o golli gwaith na phobl yn eu 40au,2 er gwaethaf y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad helaeth sydd ganddyn nhw fwy na thebyg.

Byddai cyflogi dim ond hanner y bobl hŷn yn y DU sydd eisiau gweithio yn golygu cynnydd o hyd at £25 biliwn y flwyddyn mewn GDP, felly mae oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed nid yn unig yn effeithio ar unigolion ond hefyd ar ein heconomi.

Gall pobl hŷn wynebu rhagfarn hefyd wrth geisio cael mynediad at wasanaethau iechyd. Mae ymchwil yn dangos bod agweddau negyddol tuag at oedolion hŷn yng Nghymru yn dylanwadu ar y gofal iechyd sydd ar gael a safon y gofal hynny3. Hefyd, mae gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan y Comisiynydd Pobl Hŷn sy’n canolbwyntio ar Gymru wedi canfod fod bron 1 ym mhob 10 person hŷn wedi teimlo fod agwedd pobl eraill wedi gwneud iddyn nhw deimlo’n rhy hen i dderbyn gwasanaethau iechyd.4

Dylai penderfyniadau am fynediad at wasanaethau iechyd ac iechyd ataliol – sy’n gallu cael effaith ar iechyd, llesiant ac ansawdd bywyd pobl – fod yn seiliedig ar ganlyniadau clinigol, yn hytrach na rhagdybiaethau a allai fod yn seiliedig ar oed cronolegol yr unigolyn.

Crafu’r wyneb yn unig yw’r enghreifftiau hyn o ran pa mor gyffredin yw oedraniaeth a’i effaith ar bobl hŷn. Mae corff cynyddol o waith ymchwil yn awgrymu bod oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn, ar eu gallu i wella ar ôl salwch, ac ar lefelau o allgáu cymdeithasol. Daeth astudiaeth arall i’r casgliad fod pobl sydd ag agweddau cadarnhaol ynglŷn â heneiddio yn gallu byw hyd at 7.5 mlynedd yn hirach na’r rheini sydd ag agweddau negyddol o fynd yn hŷn.5

Felly, mae’n hanfodol ein bod yn codi ymwybyddiaeth am y mathau o oedraniaeth a wynebir gan bobl hŷn bob un diwrnod a’r effaith y gallai hynny ei gael ar eu bywydau. Rhaid inni hefyd herio oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran bob cyfle a gawn.

Dyna pam fod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi lansio ei hymgyrch #EverydayAgeism. Dyma sut gallwch chi gefnogi’r ymgyrch:

  • Rhannwch negeseuon a delweddau’r ymgyrch #EverydayAgeism drwy’r cyfryngau cymdeithasol
  • Rhannwch enghreifftiau o oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran gyda’r Comisiynydd fel y gallwn ni dynnu sylw atynt a’u herio
  • Gwnewch addewid yn nodi sut byddwch chi’n chwarae eich rhan yn yr her ac yn mynd i’r afael ag oedraniaeth
  • Cysylltwch â ni gyda syniadau eraill i gydweithio er mwyn mynd i’r afael ag oedraniaeth

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, a chael gafael ar ganllawiau ac adnoddau defnyddiol ar wefan ymgyrch #EverydayAgeism y Comisiynydd – https://olderpeople.wales/news/commissioner-launches-campaign-to-tackle-everyday-ageism/

Law yn llaw â’r ymgyrch, mae’r Comisiynydd hefyd yn lansio pecyn gwybodaeth a chyngor newydd i bobl hŷn – Gweithredu yn erbyn Oedraniaeth. Byddwn yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi i bobl hŷn ledled Cymru er mwyn eu grymuso i adnabod a herio achosion o oedraniaeth. Drwy gydweithio, mae gennym gyfle i newid agweddau gan ddangos pa mor gyffredin yw oedraniaeth yn ein cymdeithas, yn ogystal â herio’r rhagdybiaethau a’r mythau am bobl hŷn sy’n arwain at oedraniaeth. Felly, beth amdani? Helpwch ni i fynd i’r afael ag #EverydayAgeism.

1 https://www.sunlife.co.uk/life-cover/over-50-life-insurance/over-50-data-centre/ageism/
2 https://www.telegraph.co.uk/news/2019/10/11/workers-50s-twice-likely-made-redundant-40-somethings-official/
3 https://www.bma.org.uk/-/media/files/pdfs/collective%20voice/policy%20research/public%20and%20population%20health/age-discrimination-and-the-perception-of-ageing.pdf
4 https://olderpeople.wales/news/commissioner-launches-campaign-to-tackle-everyday-ageism/

5 Levy, B., Slade, Martin D., Kasl, S. V., Kunkel, S. R., (2002), Longevity increased by positive self-perceptions of ageing, Journal of Personality and Social Psychology, 83, no.2, 261-270