Cyhoeddwyd llyfr newydd ar allgáu cymdeithasol yn ystod bywyd ddiweddarach

Mae Social Exclusion in Later Life - Interdisciplinary and Policy Perspectives yn llyfr mynediad agored newydd sy'n darparu dadansoddiad cynhwysfawr o allgáu cymdeithasol pobl hŷn. Mae'r llyfr yn dwyn ynghyd ganfyddiadau ymchwil o'r rhwydwaith ymchwil ROSEnet (a ariennir gan yr UE).

Mae'r llyfr yn cynnwys cyfraniadau gan lu o gerontolegwyr rhyngwladol amlwg gan gynnwys yr Athro Vanessa Burholt, Dr Deborah Morgan, yr Athro Norah Keating a Maria Cheshire Allen o'r CIA.