Mae grŵp trawsbleidiol yn galw am weithredu i gryfhau pontio’r rhwng cenedlaetha
Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Bontio’r Cenedlaethau yn y Senedd wedi nodi Wythnos Genedlaethol Pontio’r Cenedlaethau 2021 drwy alw ar y Llywodraeth Cymru nesaf i gymryd camau i gryfhau’r berthynas rhwng cenedlaethau a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau.
Sefydlwyd y grŵp ym mis Tachwedd 2020 i hyrwyddo cydsafiad a chyd-ddealltwriaeth rhwng cenedlaethau ac i ystyried tystiolaeth a datblygu cynigion polisi a fyddai’n fanteisiol i genedlaethau iau a chenedlaethau hŷn. Bydd y grŵp hefyd yn nodi ac yn hyrwyddo prosiectau ac arferion da sy’n dod â chenedlaethau iau a chenedlaethau hŷn ynghyd i helpu i gyflwyno mentrau llwyddiannus i bontio’r cenedlaethau ledled Cymru.
Mae’r grŵp trawsbleidiol yn cynnwys gwleidyddion ar draws y Senedd ynghyd ag ymchwilwyr academaidd allweddol, ymarferwyr sydd â phrofiad o redeg prosiectau sy’n pontio’r cenedlaethau, a chynrychiolwyr pobl iau a hŷn, yn cynnwys comisiynwyr Cymru dros Bobl Hŷn, Plant, a Chenedlaethau’r Dyfodol. Ymhlith ei aelodau mae ymchwilwyr y Ganolfan Heneiddio Arloesol Dr Deborah Morgan a Dr Carol Maddock ynghyd â Stephanie Green, Cydlynydd ENRICH Cymru a Dr Liz Jones o Sefydliad Awen.
Mae’r grŵp wedi cyhoeddi set o argymhellion i’r Llywodraeth Cymru nesaf, yn cynnwys:
- darparu cyllid ar gyfer rhaglen genedlaethol i gefnogi, hyrwyddo a chydgysylltu datblygiadau pontio’r cenedlaethau
- sefydlu cronfa grant genedlaethol ar gyfer grwpiau cymunedol sy’n rhedeg prosiectau pontio’r cenedlaethau
- Sicrhau bod ystyriaeth i bontio’r cenedlaethau yn rhan ganolog o gynlluniau polisi ar gyfer adfer ac ailgodi ar ôl y pandemig COVID-19
- Cynnal cynulliad dinasyddion ar gryfhau cydsafiad rhwng y cenedlaethau
Yn ogystal â hyn, mae’r grŵp wedi amlinellu’r pedwar maes blaenoriaeth y bydd yn canolbwyntio arnynt yn ei waith ar gyfer y dyfodol:
- mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd
- cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes
- delio â rhagfarn ar sail oedran
- sgiliau a’r economi