Pam fod angen cyfraniad gan ddefnyddwyr gwasanaeth arnom?

Mae’n bwysig i’r cyhoedd fod yn rhan o’r broses o ddatblygu gwasanaethau iechyd a llesiant fel eu bod yn addas i bwrpas. Mae 3 aelod lleyg wedi bod yn rhan o’r Academi Iechyd a Llesiant ers dyddiau cynnar yr Academi ac maent yn rhan o’r strwythurau llywodraethiant a sicrhau ansawdd, gan sicrhau bod llais y claf yn weithredol ac yn bresennol.

Mae ymgysylltu â’r gwasanaethau sy’n datblygu ac adolygu profiad y claf yn cynnig dealltwriaeth a chyfle i awgrymu gwelliannau. Rydym wedi mapio taith y claf ar gyfer y rhan fwyaf o’r gwasanaethau, ac mae hynny wedi cynnwys rhoi adborth ar daflenni cleifion, llythyrau clinic a ffurflenni arfarnu myfyrwyr.

Victoria a Catherine yn lansiad yr Academi

Victoria a Catherine yn lansiad yr Academi

Cyfarfod Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething

Cyfarfod Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething