Triniaeth Osteopatheg yn ystod beichiogrwydd

Pan fyddwch yn feichiog, bydd eich corff yn mynd drwy ystod enfawr o newidiadau, a'r mwyaf amlwg yw magu pwysau a newidiadau i’ch osgo. Bydd newidiadau llai amlwg hefyd fel meddalu gewynnau oherwydd newidiadau hormonaidd a lleoliad anghyfforddus babi sy'n tyfu. Gall cyfuniad o'r newidiadau hyn roi pwysau ychwanegol ar eich cymalau, eich asgwrn cefn a'ch pelfis a gallant weithiau effeithio ar allu menyw i barhau â thasgau o ddydd i ddydd.

Dyma rai o'r cyflyrau mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar fenywod beichiog :

  • Seiatica
  • Poen yng ngwregys y pelfis
  • Poen yn rhan isaf y cefn
  • Poen yn y gwddf, yr ysgwydd a rhan uchaf y cefn
  • Problemau yn y pelfis, y glun a'r coesau

Gall triniaeth osteopathig hefyd helpu i leddfu poen ac anghysur sy'n gysylltiedig âg:

  • Osgo gwael wrth fwydo ar y fron
  • Codi a chario eitemau trwm fel seddi ceir a phramiau
  • Cario babi neu blentyn ifanc

Ydy osteopatheg yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd?

Mae osteopathiaid yn defnyddio technegau cyffwrdd, trin, , estyn a thylino’r corff sy'n gwbl ddiogel ac yn dyner i'r fam a'r baban. Mae'r technegau y mae osteopath yn eu defnyddio ar fenyw feichiog yn cael eu dewis yn ofalus i leihau unrhyw risg a chânt eu haddasu i fod yn addas i'r claf.

Mae ein hosteopathiaid cymwys iawn yn darparu ffordd ddiogel ac effeithiol o ddelio â'r cyflyrau cyffredin hyn drwy helpu'r corff i addasu ac alinio wrth i'r beichiogrwydd fynd yn ei flaen. Gall hyn helpu i leihau anghysur a phoen gan arwain at feichiogrwydd haws.

Os ydych chi'n profi unrhyw un o'r uchod, trefnwch apwyntiad gydag un o'n hosteopathiaid yn ein clinig addysgu o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe.