Beth yw osteopatheg?

Mae osteopatheg yn system diagnosis a thriniaeth ar gyfer ystod eang o gyflyrau meddygol. Mae'n gweithio gyda strwythur a gweithrediad y corff, ac mae'n seiliedig ar yr egwyddor bod lles unigolyn yn dibynnu ar yr ysgerbwd, y cyhyrau, y gewynnau a'r meinweoedd cysylltiol yn gweithio'n esmwyth gyda'i gilydd.

I osteopath, er mwyn i'ch corff weithio'n dda, rhaid i'w strwythur weithio'n dda hefyd. Felly mae osteopathiaid yn gweithio i adfer eich corff i gyflwr cydbwysedd, heb ddefnyddio cyffuriau neu lawdriniaeth lle bynnag y bo’n bosibl. Mae osteopathiaid yn defnyddio technegau cyffwrdd, trin estyn a thylino corfforol i gynyddu symudedd cymalau, i leddfu tensiwn cyhyrau, i wella'r cyflenwad gwaed a nerfol i feinweoedd, ac i helpu mecanweithiau iacháu eich corff. Gallant hefyd roi cyngor ar osgo ac ymarfer corff i helpu i adfer, hyrwyddo iechyd ac atal symptomau rhag digwydd eto (y Cyngor Osteopatheg Cyffredinol 2011).

Er bod osteopathiaid yn trin llawer o gyflyrau, mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl amdanom fel 'arbenigwyr cefn'. Poen cefn yw'r hyn y mae llawer o osteopathiaid yn ei drin lawer o'r amser. Nid yw triniaeth osteopathig yn targedu symptomau yn unig ond mae'n trin y rhannau o'r corff sydd wedi achosi'r symptomau. Mae gan osteopathiaid ddull cyfannol ac maent yn credu y bydd eich corff cyfan yn gweithio'n dda os bydd eich corff mewn cydbwysedd strwythurol da; dychmygwch, er enghraifft, gar nad yw un o'i olwynion blaen yn syth. Gallai redeg yn dda am ychydig, ond ar ôl ychydig filoedd o filltiroedd, bydd y teiar yn dirywio. Gallwch gymhwyso'r enghraifft hon i'r corff dynol, a dyna pam mae hi mor bwysig cadw'r corff mewn cydbwysedd da. Rydym yn defnyddio ystod eang o dechnegau, gan gynnwys tylino, technegau creuanol (cyfeirir at y rhain weithiau fel 'osteopatheg greuanol') a thrin y cymalau, ac ma amrywiaeth eang y dulliau gweithredu hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar union anghenion pob claf.

Mae osteopathiaid yn asesu ac yn trin pobl o unrhyw oedran, o'r henoed i'r newydd-anedig ac o fenywod beichiog i bobl chwaraeon (Cymdeithas Osteopatheg Prydain, 2011).

Ydy Osteopatheg yn gweithio?

• Cadarnhaodd treial ymarfer corff a thrin poen cefn y DU (UKBEAM 2004) fod cleifion a oedd yn derbyn triniaeth yn ogystal ag ymarfer corff a chyngor yn gwneud yn well, yn y tymor byr a'r tymor hir, na'r rhai na dderbyniant driniaeth.
• Mae canllawiau NICE ar gyfer osteoarthritis (Chwefror 2008) yn argymell defnyddio therapi llaw (trin ac ymestyn), ac ymarferion cryfhau a chyngor, fel rhan o'r pecyn ymyrraeth.

Pa gyflyrau y mae osteopathiaid yn eu trin yn bennaf?

Mae cleifion osteopathiaid yn cynnwys pobl ifanc, pobl hŷn, gweithwyr llaw, gweithwyr swyddfa proffesiynol, menywod beichiog, plant a phobl chwaraeon. Mae cleifion yn ceisio triniaeth ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau, gan gynnwys poen cefn, anaf straen ailadroddus; newidiadau i osgo yn ystod beichiogrwydd, problemau osgo a achosir gan yrru neu straen gwaith, poen arthritis a mân anafiadau chwaraeon.

Y cyflyrau meddygol mwyaf cyffredin rydym yn eu trin yw:

  • Poenau cyffredinol, 
  • Poenau yn y cymalau (poen clun a phen-glin o Osteoarthritis) 
  • Poen arthritig, 
  • Poen cyffredinol, acíwt a chronig yn y cefn,
  • Poen gwddf mecanyddol nad yw'n gymhleth,
  • Pen tost yn codi o'r gwddf,
  • Poen yn y penelin a'r ysgwydd (gan gynnwys llid ar y penelin ac ysgwydd wedi'i chloi),
  • Problemau cylchrediad y gwaed, 
  • Cramp,
  • Problemau treulio, 
  • Poenau yn y cymalau,
  • Llwynwst 
  • Seiatica, 
  • Sbasmau cyhyrau, 
  • Niwralgia,
  • Ffibromyalgia,
  • Poen gwynegol,
  • Mân anafiadau a thensiynau chwaraeon.

Fodd bynnag, osteopatheg wedi helpu cleifion gyda llawer o gyflyrau eraill. Os ydych chi am gael gwybod mwy, bydd unrhyw osteopath yn hapus i siarad â chi.

Beth galla i ei ddisgwyl pan fyddaf yn ymweld ag osteopath?

Mae hwn yn glinig addysgu ar gyfer y rhaglen Meistr mewn Osteopatheg ym Mhrifysgol Abertawe, ac felly bydd myfyrwyr yn bresennol yn y clinig ond o dan oruchwyliaeth agos tiwtoriaid clinigol, sy'n osteopathiaid cofrestredig.

Yn ystod eich ymweliad cyntaf, bydd eich ymarferydd yn cofnodi hanes meddygol manwl, gan gynnwys gwybodaeth am eich ffordd o fyw a'ch deiet.  

Mae osteopathiaid yn defnyddio ffurf arbenigol o gyffyrddiad ysgafn, sef teimlo â llaw, i nodi annormaleddau a thensiynau yn strwythur a gweithrediad y corff. At hynny, maent yn defnyddio'u dwylo i asesu mannau gwendid, tynerwch, cyfyngiad neu straen. Bydd y dull hwn yn galluogi eich osteopath i wneud diagnosis llawn a thrafod y cynllun triniaeth mwyaf priodol â chi. Bydd hefyd yn eich cynghori ar y nifer debygol o sesiynau fydd eu hangen i drin eich cyflwr yn effeithiol. 

Nod ymarferwyr osteopatheg yw gweithio gyda gallu eich corff i wella ei hun. Fel arfer byddant yn dechrau unrhyw driniaeth drwy ryddhau a llaesu cyhyrau ac estyn cymalau stiff, gan ddefnyddio tylino tyner a symudiadau rhythmig ar y cymalau. Bydd yr ystod benodol o dechnegau y mae eich osteopath yn eu defnyddio yn dibynnu ar eich problem(au) unigol. 

Yn gyffredinol, mae'r driniaeth gyntaf yn para tuag 1 awr a 15 munud (i ganiatáu amser i gofnodi hanes achos a gwneud diagnosis) ac mae triniaethau dilynol yn tueddu i bara tua 45 munud. Mae osteopathiaid hefyd yn cynnig ymarferion corff ychwanegol a chyngor iechyd, i helpu i leihau'r symptomau a gwella eich iechyd a'ch ansawdd bywyd.

Beth dylwn i ei wisgo?

Fel gydag unrhyw archwiliad meddygol, mae'n debygol y gofynnir i chi ddadwisgo i'ch dillad isaf, felly gwisgwch rywbeth rydych chi'n gyfforddus ynddo.

Gaf i ddod â ffrind neu berthynas?

Cewch – os dymunwch, gallwch gael rhywun yn bresennol drwy gydol eich ymgynghoriad a'ch triniaeth.

Ydy’n brifo?

Gall rhai mathau o driniaeth meinwe meddal achosi lefel isel o anghysur yn ystod triniaeth. Bydd eich osteopath yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl, a bydd am i chi roi gwybod iddo os ydych chi mewn poen. Efallai y byddwch yn teimlo ychydig yn stiff neu'n boenus ar ôl cael triniaeth. Mae hwn yn ymateb arferol ac iach i'r driniaeth.

Oes angen i mi weld fy meddyg yn gyntaf?

Nid oes angen i chi weld eich meddyg yn gyntaf os ydych yn talu am eich triniaeth eich hun. Mae canllawiau Cymdeithas Feddygol Prydain ar gyfer meddygon teulu yn nodi y gall meddygon atgyfeirio cleifion yn ddiogel at osteopathiaid.

Beth yw cost y driniaeth?

Ymgynghoriadau cychwynnol (1 awr 15 munud) a thriniaethau dilynol (45 munud):

Ffioedd a Chonsesiynau

Pwy fydd yn fy nhrin?

Clinig addysgu yw hwn felly bydd triniaethau'n cael eu darparu gan osteopathiaid dan hyfforddiant o dan arweiniad a goruchwyliaeth agos osteopathiaid cofrestredig. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn bresennol er mwyn arsylwi pan ddarperir triniaethau gan yr osteopathiaid cofrestredig.

Faint o driniaethau bydd eu hangen arnaf?

Mae nifer y triniaethau sydd eu hangen arnoch yn dibynnu ar y cyflwr a'r person rydym yn ei drin. Ein nod yw cadw nifer eich apwyntiadau i leiafswm. Bydd eich osteopath yn gallu dweud wrthych ymhen cyfnod byr a all eich trin neu a oes angen iddo eich cyfeirio at rywun arall.