Cynhaliodd Dr. Laurie Hughes a’r Athro Yogesh Dwivedi o’r Grŵp Ymchwil Dyfodol Digidol ar gyfer Busnes a Chymdeithas Cynaliadwy yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe weithdy o’r enw “Y Meta-fydysawd – Dadansoddiad o’r Ochr Dywyll” yng Nghampws y Bae ar 15 Mehefin.

Ariannwyd y gweithdy gan Academi Systemau Gwybodaeth y Deyrnas Unedig (UKAIS) a’r Ysgol Reolaeth, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am eu cymorth.

Gan adeiladu ar y drafodaeth a gyflwynwyd yn un o’n herthyglau diweddar, diben y gweithdy oedd datblygu gwybodaeth ddyfnach a dealltwriaeth a rennir o oblygiadau negyddol y meta-fydysawd, yn ogystal ag archwilio’r gyd-ddibyniaeth rhwng ffactorau sylfaenol. Mynychwyd y gweithdy gan academyddion ac ymarferwyr amlddisgyblaethol blaenllaw o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Coleg y Brenin Llundain, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Sheffield, Prifysgol Bryste, Prifysgol Brunel, Prifysgol Abertawe, a Kabuni – Meta-fydysawd Diogel i Blant.

Cyfrannodd yr holl fynychwyr at yr areithiau a’r trafodaethau panel, gan feithrin dealltwriaeth ddyfnach a barn gyffredin am effeithiau negyddol amlweddog mabwysiadu’r meta-fydysawd yn helaeth. Roedd yr angen hollbwysig i ddiogelu defnyddwyr agored i niwed, yn enwedig plant, a’r effeithiau cymdeithasol canlyniadol yn arbennig o nodedig. Roedd pawb yn cytuno bod hyn yn faes ymchwil pwysig, a bod gan y byd academaidd rôl allweddol i’w chwarae wrth daflu goleuni ar agweddau arwyddocaol a chanlyniadau negyddol y meta-fydysawd.

Edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiadau yn y dyfodol ar y pwnc hwn a phynciau eraill cysylltiedig ym Mhrifysgol Abertawe, a hoffem ddiolch i’r rhai a oedd yn bresennol. Rydym yn ddiolchgar iawn am amser a chyfraniadau gwerthfawr pawb.

Cefais amser gwych ym Mhrifysgol Abertawe yn cymryd rhan mewn trafodaeth a oedd yn ysgogi’r meddwl am agweddau negyddol y meta-fydysawd, a arweiniwyd gan banel amlddisgyblaethol eithriadol o dalentog.” Dr David Vidal, Cyfrifiadureg, Coleg Prifysgol Llundain

Cefais gyfle gwych i gymryd rhan yn y gweithdy hwn a oedd yn ysgogi’r meddwl yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe. Archwiliodd trafodaeth y panel ochr dywyll ddiddorol y meta-fydysawd, gan ennyn syniadau arloesol a pharatoi’r ffordd ar gyfer ymchwil a phrosiectau addawol yn y dyfodol. Roedd y cyflwyniadau diddorol ar bynciau fel lledrith y meta-fydysawd, gwirioneddau estynedig a rymusir gan ddeallusrwydd artiffisial, a’r ochr dywyll mewn cymwysiadau manwerthu a defnyddwyr wedi fy ysbrydoli’n fawr. Edrychaf ymlaen yn eiddgar at archwilio posibiliadau gwaith ymchwil academaidd pellach yn y maes hwn, sy’n hollbwysig i ffurfio’r dyfodol.” Nina Jane Patel, Cyd-sylfaenydd, Kabuni – Meta-fydysawd Diogel i Blant

Rhannu'r stori