Myfyriwr yn gwireddu syniad am beiriant prynu deunydd ysgrifennu

Mae myfyriwr Rheoli Busnes yn ei flwyddyn olaf Neophytos Ioannou, gyda chymorth yr Ysgol Reolaeth, wedi gwireddu ei syniad busnes arloesol ac wedi cyflwyno peiriant gwerthu deunydd ysgrifennu yn llyfrgell Campws y Bae. Mae'n gwerthu popeth o ddeunydd ysgrifennu i glustffonau i wefrwyr a cheblau USB. Bu'n siarad â ni am sut gwnaeth ddatblygu'r syniad.

"Nodais angen am beiriant prynu deunydd ysgrifennu yn y Brifysgol. Roeddwn yn astudio un noson gyda fy ffrind sy'n fyfyriwr Peirianneg ac roedd ef wedi colli ei ddeunydd ysgrifennu. Roedd yn pryderu, oherwydd roedd y siop ar y campws ar gau ac nid oedd llyfrgellwyr ar gael, felly roedd mewn penbleth. Dyma lle cefais fy syniad."

Yn ystod ei ail flwyddyn yn astudio, bu Neo yn astudio'r modiwl Entrepreneuriaeth Gymhwysol sy'n ymarferol ac yn seiliedig ar brosiect, lle datblygodd gynllun busnes ar gyfer ei syniad am beiriant gwerthu deunydd ysgrifennu. Cafodd fuddsoddiad gwerth £1000 yn seiliedig ar ei gyflwyniad busnes i Gronfa Buddsoddi'r Ysgol Reolaeth. O ganlyniad i'r buddsoddiad hwn, prynodd Neo beiriant gwerthu ynghyd â'r stoc cychwynnol.

Dywedodd Neo: "Derbyniais i lawer o gymorth gan fy narlithwyr. Gwnaethant fy helpu gyda rheoliadau iechyd a diogelwch a chefais lawer o gyngor amhrisiadwy."

Ychwanegodd; "Mae gan ddarlithwyr yr Ysgol brofiad bywyd go iawn ac mae rhai wedi cynnal eu busnesau eu hunain, sydd mor fuddiol i ni fel myfyrwyr."

Gan fod y busnes bellach ar ei ail flwyddyn, mae Neo wedi gwneud rhai newidiadau gan gynnwys: gwella'r amrywiaeth o gynnyrch sydd ar gynnig; ychwanegu gwefrwyr a cheblau USB, cynyddu prisiau a newid i gyflenwyr newydd. Mae wedi gwneud elw o dros £400. Un o'r heriau mwyaf sydd ganddo wrth fynd rhagddo yw rhoi system talu digyswllt ar waith yn y peiriant.

Mae Neo'n gobeithio mynd ymlaen i astudio Gradd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, gan ganolbwyntio mwy ar Farchnata. Gorffennodd drwy ddweud:

"Rwyf wedi dwlu ar fy amser yn yr Ysgol Reolaeth. Mae'r ffaith bod Campws y Bae mor agos at y traeth yn fantais fawr i mi. Rwyf hefyd yn hoffi bod Abertawe'n ddinas gymharol fach felly nid yw'n rhy brysur ac yn eithaf rhad hefyd. Rwyf wedi byw yn gymharol gyfforddus fel myfyriwr.

Mae tîm Cyflogadwyedd yr Ysgol wedi bod yn hynod gefnogol drwy gydol fy amser yma. Byddwn yn annog unrhyw un sydd am ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd i ystyried astudio yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe.”

Rhannu'r stori